R. Tudur Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Ganwyd Y Parchedig Brifathro '''Robert Tudur Jones''' ([[28 Mehefin ]] [[1921]]-[[1998]]) ''BA BD D.Phil D.Litt DD'' yn y Tyddyn Gwyn, Rhos-lan, [[Cricieth]], yn fab hynaf i John Thomas ac Elizabeth Jones. Bu dylanwad [[diwygiad 1904-1905]] yn drwm ar ei rieni ac felly gellir cymryd yn ganiataol bod crefydda yn fwy na defod ddiwylliannol yn unig i'r teulu. Gyda Tudur dal yn ifanc bu i ofynion gwaith orfodi'r teulu i symud i'r [[Rhyl]], yn gyntaf i dŷ yn ymyl Pont [[y Foryd]] ac wedi hynny ymsefydlu mewn tŷ mwy ar Princes Street. Erbyn hyn roedd ganddo frawd a chwaer iau, John Ifor a Meg. Gweithio fel gard rheilffordd i'r LMS oedd ei dad ac o blegid byw'n syml, yn blaen ac yn ofalus oedd yn reidrwydd i'r teulu.
 
Yn y Rhyl deiau'r byd Cymraeg a Saesneg ynghyd. Saesneg oedd iaith ysgol Christ Church a diwylliant poblogaidd y dref ond y Gymraeg oedd iaith y cartref a'r capel. Mynychu capel Carmel yr Annibynwyr yr oedd teulu Tudur; y gweinidog bryd hynny oedd T. Ogwen Griffith – gwr efengylaidd ei ogwydd oedd yn atyniad, bid siŵr, i ysbrydolrwydd rhieni Tudur. Yn y blynyddoedd cynnar yma yng Ngharmel y daeth ei ddoniau a'i allu anarferol i'r amlwg gyntaf a hynny drwy gofio ac adrodd adnodau yn y Capel. Yr arfer ar y pryd oedd i bob plentyn adrodd adnod neu ddwy; rhoes Tudur gynnig ar adrodd penodau cyfan. Bu rhaid i'w Dad roi'r caead ar y sospan pan gyhoeddodd un diwrnod ei fod am fynd ati i ddysgu'r Salm fawr o'i gof! Nododd [[D. Densil Morgan]] fod '...tynerwch ei fam (a fu farw yn gwbl annisgwyl yn [[1932]] yn 44 oed), cadernid ei dad a chymdeithas aelwyd a chapel yn ddylanwadau ffurfiannol arno.'
 
 
== Addysg ==
 
Yn un ar ddeg fe aeth ymlaen i Ysgol Ramadeg y Rhyl lle daeth dan ddylanwad [[T.I. Ellis]] ac [[S.M. Houghton]]. Dan Ellis daeth Tudur i ddechrau ymgyfarwyddo a'r [[Groeg]] ac Houghton y'i cyflwynodd i weithiau a syniadau'r [[Piwritaniaid]] am y tro cyntaf. Yn y cyfnod hwn y cyfarfu un o'i gyfeillion oes, y nofelydd [[Emyr Humphreys]]. Er y gwrthwynebiad gan eu cyd-ddisgyblion roedd Tudur a'i gyfaill Emyr wedi dod i arddel [[cenedlaetholdeb]] ac fe'i hysbrydolwyd yn fawr wrth ddilyn hynt a helynt llosgi'r Ysgol Fomio yn 1936. Nid dim ond ei ddawn academaidd a'i Gymreictod oedd yn tyfu gwreiddiau yn y cyfnod hwn ond dwysaodd ei fywyd ysbrydol yn ogystal. Nododd iddo gael ei gyffwrdd yn arbennig gan bregeth o eiddo T. Glyn Thomas, Wrecsam ac hefyd gan bregeth o eiddo [[Martyn Lloyd-Jones]] a draddodwyd mewn ymgyrch efengylaidd ar bromenâd y Rhyl. Dyma'r noson lle 'taniodd y fatsien' fel y nododd mewn rhaglen ddogfen ar [[S4C]] yn y nawdegau.
 
Llinell 14 ⟶ 12:
 
== Gyrfa a Chyhoeddiadau ==
 
 
Er iddo ddechrau creu enw iddo ef ei hun fel pregethwr grymus fe wyddai pawb mae fel academydd y gallasai gyflawni'r gymwynas fwyaf i'r Annibynwyr ac i Gymru yn gyffredinol. Wedi dwy flynedd yn unig fel gweinidog daeth cadair Hanes yr Eglwys ym Mala-Bangor yn rhydd wedi i [[Pennar Davies]] symud i'r [[Coleg Coffa]] yn [[Aberhonddu]], gwahoddwyd Tudur i ymuno a staff y Coleg ac fe dderbyniodd. Wedi marwolaeth [[Gwilym Bowyer]] yn 1965 fe'i dyrchafwyd yn brifathro. Yn ogystal a'i ddyletswyddau ym Mala-Bangor fe'i cyflogwyd gan adran Astudiaethau Beiblaidd y Brifysgol fel darlithydd mewn Syniadaeth Gristnogol o 1957 ymlaen ac yn dilyn cau Bala-Bangor ddiwedd yr wythdegau fe'i penodwyd fel Athro Anrhydeddus gan adran Ddiwinyddiaeth y Brifysgol.
 
Llinell 26 ⟶ 22:
 
== Gwleidyddiaeth a Newyddiaduraeth ==
 
 
Yn ogystal a chyhoeddi cyfrolau hanesyddol daeth gweithiau athronyddol, syniadaethol a defosiynol o'i stydi. Cyhoeddwyd 'Yr Ysbryd Glan' yn 1972 ac yn y gyfrol hon, a lunwyd yn wreiddiol fel maes llafur yr ysgolion Sul, yr amlinellir dadliadau uniongred ddiwinyddol Tudur yn blwmp ac yn blaen. Ato ef y trodd yr Annibynwyr yn 1952 er mwyn tewi'r gwrthwynebiad a ddatblygodd i safiad Undeb yr Annibynwyr ar Hunanlywodraeth i Gymru. Cyhoeddwyd y bamffled 'Yr Annibynwyr a Hunanlywodraeth i Gymru' yn 1952. Flwyddyn yn ddiweddarach cyhoeddwyd ysgrif ganddo yn Saesneg yn trafod y wladwriaeth; cyhoeddwyd 'The Christian doctrine of the state' yn 'Proceedings of the Seventh International Congregational Council', St. Andrews University (1953). Cyhoeddodd [[Plaid Cymru]] bamffled o'i eiddo yn dwyn y teitl 'Egwyddorion Cenedlaetholdeb: y frwydr dros urddas dyn yng Nghymru' yn 1959 ac fe ymddangosodd cyfrol Saesneg ar bwnc cenedlaetholdeb o'r enw 'The Desire of Nations' yn 1974. Fe groesa ei ddaliadau Cristnogol yn glir i mewn i'r sffêr wleidyddol mewn ysgrifau sydd i'w canfod yn ei gyfrol 'Ffydd yn y Ffau' a gyhoeddwyd yn 1974. Yn ystod y saithdegau roedd iddo rôl unigryw fel guru i fyfyrwyr Bala-Bangor oedd yn weithgar yn rhengoedd [[Cymdeithas yr Iaith Gymraeg]] ac [[UMCB]]. Rhoes cefnogaeth agored Tudur i weithgaredd, weithiau yn dor-cyfreithiol, ei fyfyrwyr ddilysrwydd yng ngolwg llawer i weithgaredd protestgar a fyddai'n cael ei weld gan lawer o grefyddwyr a phobl sefydliadol y cyfnod yn annoeth ac eithafol.
 
Llinell 48 ⟶ 42:
 
 
[[Categori{{DEFAULTSORT:Hanesyddion Cymreig|Jones, R. Tudur]]}}
[[Categori:LlenorionGenedigaethau Cymraeg|Jones, R. Tudur1921]]
[[Categori:AcademyddionMarwolaethau Cymreig|Jones, R. Tudur1988]]
[[Categori:DiwinyddionAcademyddion Cymreig|Jones, R. Tudur]]
[[Categori:PoblDiwinyddion o Eifionydd|Jones, R. TudurCymreig]]
[[Categori:GenedigaethauHanesyddion 1921|Jones, R. TudurCymreig]]
[[Categori:MarwolaethauLlenorion 1988|Jones, R. TudurCymraeg]]
[[Categori:Pobl o Eifionydd]]
[[Categori:Pobl o'r Rhyl]]
 
[[en:R. Tudur Jones]]