Cyngor Trent: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
dolen Pab Pawl III]
B gwa
Llinell 2:
Deunawfed Gyngor Eciwmenaidd yr [[Eglwys Gatholig]], a alwyd gan y [[Pab]] [[Pab Pawl III|Pawl III]] i wrthsefyll effeithiau'r [[Diwygiad Protestannaidd]] oedd '''Cyngor Trent''' ([[1545]]–[[1547]], [[1551]]–[[1552]], [[1562]]–[[1563]]).
 
Fe'i cynhaliwyd dair gwaith rhwng [[13 Rhagfyr]], [[1545]], a [[4 Rhagfyr]], [[1563]] yn ninas [[Trent]] ([[Trento]] heddiw, yng ngogledd [[Yr Eidal]]) fel ymateb gan yr Eglwys Gatholig i'r bygythiad i'w [[Diwinyddiaeth|hathrawiaeth ddiwinyddol]] a'i hawdurdod eglwysig gan y Diwygiad Protestannaidd. Fe'i hystyrir yn un o'r cynghorau pwysicaf yn hanes yr Eglwys Gatholig. Ynddo gosodwyd allan yn eglur yr athrawiaeth Gatholig ar [[iachawdwriaeth]], y [[sagrafen]], a'r [[Canon y Beibl|canon]] [[Beibl]]aidd awdurdodedig. Penderfynwyd cael canllawiau cydnabyddedig am weinyddu'r [[Offeren]], yn bennaf trwy ddileu amrywiadau lleol: gelwir hyn yn "Offeren Trent" (''Tridentine Mass''), o ''Tridentum'', enw [[Lladin]] Trent. Condemniwyd dysgeidiaeth [[Martin Luther]].
 
{{eginyn Cristnogaeth}}