Torgoch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
|||
Llinell 32:
Y mae yn llynoedd Padarn, Peris a Cawellyn bysgod a elwir y "Torgoch," neu y "Torgochiaid." Cawsent yr enw Torgoch oddiwrth y lliw coch ysblenydd sydd ar hyd boliau y gwrywod. Y mae tor y fenyw yn wahanol o liw arianaidd, ond yr adain yn goch, er nid mor goch a'r gwryw. Gyda genwair neu wialen y delir hwy yn y blynyddoedd hyn, fel y math ereill o bysgod, tra mai gyda rhwyd yn unig y delid hwy yn yr hen amser [cyn 1909].
Dechreuid rhwydo yn yr hen amser yn llynau [[Llanberis]] tua chanol Tachwedd, ac yn para hyd ddiwedd Rhagfyr. Dechreuid yn [[Llyn Cwellyn|Llyn Cawellyn]] tua dechreu lonawr, a pharha am fis, neu weithiau fwy. Dywed y bardd [[Dafydd Ddu Eryri]], yn y "[[North Wales Gazette]]" am Chwefror 2, 1809, y buwyd yn dal tua mil ohonynt yn Llyn Cawellyn mewn tair wythnos. Daliwyd tua thriugain dwsin yn [[Llyn Padarn]] ar un ddalfa. Gwna hyny 720 mewn un noson, tra y dywed Dafydd Ddu na cheid cymaint yn Llyn Cawellyn. Dywed eto yn mhellach (a chofier fod cant o flynyddoedd i mis Chwefror diweddaf er hyny), mai y Torgoch mwyaf ddaliwyd yn Llynau Llanberis oedd ddeng modfedd o hyd, tra y mae Torgochiaid Cawellyn yn llai, yn mesur prin wyth modfedd. "Ymddengys," meddai, "mai yr un rywogaeth o Dorgochiaid sydd yn Llynau Llanberis a Cawellyn."
Gofynwyd i Dafydd Ddu, gan wr o'r enw Humphrey Owen, a ganlyn: —
:"Pa fath dywydd yw'r goreu i'w dal, pa un ai ystormus ai tawel, oer ai cynhes, rhew, barug ai meiriol?".
Llinell 50:
:"A welwyd rhai allan o'r llyn, yn yr afon. tu isaf, neu uwchlaw iddo?"
::"Ni ddaliwyd yr un Torgoch yn un o'r llynau eraill. Yn Llyn Cawellyn, ni ddelir hwynt ond mewn un man, sef yn ngheg yr afon, gerllaw y Caeau Gwynion, wrth ochr y ffordd fawr."
:"A welwyd rhai yn Llynau Lianberis, [[Cwm Silyn]], neu [[Cwm Dulyn|Gwm Dulyn]]?"
::"Dywed llafar gwlad iddynt ymddangos gyntaf yn Llynau Llanberis, yna yn Nghawellyn, ac yn olaf yn Cwm Silyn; a thybid gynt fod cysylltiad tanddaearol o'r naill i'r llall. Yn Llyn Uchaf Llanberis [Peris?], delir hwynt wrth enau y bont fawr, mewn lle graianog; ac hefyd yn nghwr isaf y llyn. Yn y llyn isaf, sef Padarn, delir hwynt wrth Ddol y Tydu, ac wrth agorfa Bala Deulyn (sef Pont y Bala yn awr). Daliwyd dros driugain dwsin o'r Torgoch ar un dynfa, rai blynyddoedd yn ol, yn y ddau le uchod. Tybir fod y dwfr mwnawl [mwynaidd?] sydd yn rhedeg o waith copr, yr hwn sydd yn nghwrr uchaf Llyn Peris, yn niweidio, nid yn unig y Torgoch, ond hefyd bysgod eraill. Y mae'r gwaith hwnw yn awr wedi sefvll, a chaed helfa doreithiog y tvmhor diweddaf. Am fynedfa tanddaearol o'r naill lyn i'r llall. Mae y peth yn rhy anhawdd ei benderfynu. Gadewir y pwnc i farn gwyr o addysg. ond y mae'n wir ei fod yn draddodiad ar len gwerin gwlad."
:"A fydd y pysg fyw yn hir. mewn dwfr arall ar ol eu dal, megis ffynnon, neu gelwrn [bwced] a dwfr?"
Llinell 56:
:"A fyddai'n bosibl eu heigio mewn llynoedd eraill.
::"Oherwydd y rhesymau uchod. ymddengys eu trosglwyddiad yn anmhosibl."
Dyna i'r darllenydd holiadau ag atebion cant oed am y Torgochiaid. Mae pethau wedi troi o chwith erbyn heddyw. Welodd Dafydd Ddu Eryri a'i gydoeswyr erioed ddal y Torgoch gyda genwair, ond gyda rhwyd, ond erbyn heddyw ychydig iawn yw'r nifer welodd ddal y Torgoch gyda rhwyd, ond gyda genwair. Gallem gasglu fod mwy o Dorgochiaid yn Llynoedd Padarn a [[Llyn Peris|Peris]] pan oedd rhyddid i'w rhwydo, na phan na cheir ond eu genweirio. Cefais ymgom gyda yr henafgwr Robert Rowland, Snowdon Street, y dydd o'r blaen, un o enweirwyr goreu'r fro, ond sydd erbyn hyn wedi peidio; oherwydd gwaeledd. Coeliaf fod yr hanes yn werth ei gadw ar gyfrif dechreuad pysgota y Torgoch gyda genwair. Dywedaf yr hanes yn ei ddull syml ef wrthyf.
::"Yr oeddwn i a Hugh Thomas,
:"Faint o amser sydd er hyny, Robert Rolant?"
::"Wel, twn [''sic''] i ddim yn iawn, ond rydw i yn cofio mai amser gweithio pedwar diwrnod yn y chwarel oedd hi - tua ugain o flynyddoedd, mae'n debyg. Cofiwch hyn, mai'r tymhor wed'yn y dechreuodd pawb yn gyffredinol eu pysgota hefo genwar. Mi welis i gimint a phymthag ar hugian o gychod ar y llyn yna ar unwaith, a phawb yn dal rhywfaint.
|