Torgoch
Torgoch | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Salmoniformes |
Teulu: | Salmonidae |
Genws: | Salvelinus |
Rhywogaeth: | S. alpinus |
Enw deuenwol | |
Salvelinus alpinus Linnaeus, 1758 |
Pysgodyn o deulu'r Salmonidae yw'r Torgoch (Salvelinus alpinus). Fe'i ceir yn naturiol mewn rhai llynnoedd yn Eryri: Llyn Bodlyn, Llyn Cwellyn a Llyn Padarn. Fe symudwyd y torgochiaid oedd yn Llyn Peris i nifer o lynnoedd eraill - Llyn Cowlyd, Llynnau Diwaunedd, Llyn Dulyn a Ffynnon Llugwy pan adeiladwyd Gorsaf Bŵer Dinorwig, ond dywedir fod y torgoch wedi dychwelyd i Lyn Peris.
-
Torgoch yn Llyn Padarn, Llanberis
-
Cyfoeth Naturiol Cymru ryddhau mwy na 5,500 o dorgoch prin yn Llyn Padarn, Gwynedd, mewn ymgais i warchod y rhywogaeth.
-
Haig o Dorgochiaid yr Arctig prin yn agosáu at eu tiroedd silio yn Afon y Bala yn Llyn Padarn, Llanberis yn ystod oriau golau dydd.
Mewn rhai rhannau o'r byd, megis Canada, gwledydd Llychlyn a Siberia mae'n llawer mwy cyffredin.
Hanes y bysgodfa dorgoch yn Eryri
golyguMewn truth hir am bob math o ddigwyddiadau yn Y Drych (5 Tachwedd 1914) nodir:- "Ym mysg y pysgod gwneir difrod garw ar y torgochiaid yn llyn Llanberis y dyddiau hyn. Mae llawer yn cael helfa dda aml i ddiwrnod, tra gwerthir hwy yn rhwydd am swllt y pwys."[1]
Ac yn Herald Cymraeg 1909, nodir:
“ | TORGOCHIAID LLYNOEDD PADARN, PERIS', CAWELLYN
Y mae yn llynoedd Padarn, Peris a Cawellyn bysgod a elwir y "Torgoch," neu y "Torgochiaid." Cawsent yr enw Torgoch oddi wrth y lliw coch ysblenydd sydd ar hyd boliau y gwrywod. Y mae tor y fenyw yn wahanol o liw arianaidd, ond yr adain yn goch, er nid mor goch a'r gwryw. Gyda genwair neu wialen y delir hwy yn y blynyddoedd hyn, fel y math ereill o bysgod, tra mai gyda rhwyd yn unig y delid hwy yn yr hen amser [cyn 1909]. Dechreuid rhwydo yn yr hen amser yn llynau Llanberis tua chanol Tachwedd, ac yn para hyd ddiwedd Rhagfyr. Dechreuid yn Llyn Cawellyn tua dechreu lonawr, a pharha am fis, neu weithiau fwy. Dywed y bardd Dafydd Ddu Eryri, yn y "North Wales Gazette" am Chwefror 2, 1809, y buwyd yn dal tua mil ohonynt yn Llyn Cawellyn mewn tair wythnos. Daliwyd tua thriugain dwsin yn Llyn Padarn ar un ddalfa. Gwna hyny 720 mewn un noson, tra y dywed Dafydd Ddu na cheid cymaint yn Llyn Cawellyn. Dywed eto yn mhellach (a chofier fod cant o flynyddoedd i mis Chwefror diweddaf er hyny), mai y Torgoch mwyaf ddaliwyd yn Llynau Llanberis oedd ddeng modfedd o hyd, tra y mae Torgochiaid Cawellyn yn llai, yn mesur prin wyth modfedd. "Ymddengys," meddai, "mai yr un rywogaeth o Dorgochiaid sydd yn Llynau Llanberis a Cawellyn." Gofynwyd i Dafydd Ddu, gan wr o'r enw Humphrey Owen, a ganlyn: —
Dyna i'r darllenydd holiadau ag atebion cant oed am y Torgochiaid. Mae pethau wedi troi o chwith erbyn heddyw. Welodd Dafydd Ddu Eryri a'i gydoeswyr erioed ddal y Torgoch gyda genwair, ond gyda rhwyd, ond erbyn heddyw ychydig iawn yw'r nifer welodd ddal y Torgoch gyda rhwyd, ond gyda genwair. Gallem gasglu fod mwy o Dorgochiaid yn Llynoedd Padarn a Peris pan oedd rhyddid i'w rhwydo, na phan na cheir ond eu genweirio. Cefais ymgom gyda yr henafgwr Robert Rowland, Snowdon Street, y dydd o'r blaen, un o enweirwyr goreu'r fro, ond sydd erbyn hyn wedi peidio; oherwydd gwaeledd. Coeliaf fod yr hanes yn werth ei gadw ar gyfrif dechreuad pysgota y Torgoch gyda genwair. Dywedaf yr hanes yn ei ddull syml ef wrthyf.
Coeliaf fod ffeithiau Dafydd Ddu a ffeithiau Robert Rowlant yn llefaru, mai po fwyaf a ddelir ohonynt mai mwyaf oll fydd ohonynt. Ni threiaf gysoni hyn. |
” |
- 'Dal pysgod ar y gwelyau claddu [dodwy] oeddynt gyda rhwydi - felly roeddynt yn llawn o rawn a 'milt' ac nid oedd ansawdd y cig ddim yn rhyw dda iawn. Roeddynt yn cael ei piclo yr amser yma - ond mae'n debyg fod eu cig yn llawn maeth er yn feddal, ac yn cael ei groesawy fel rhywbeth gwahanol iw prydau bwyd.[3]
Llên Gwerin
golyguMae hen sôn wedi bod am y twnnel o Padarn i Cwellyn a dyna pam fod pysgod yn cael eu dal yn Nhachwedd a Rhagfyr yn Nyffryn Peris ac yn ystod Ionawr ar Cwellyn - ar ôl mynd drwy'r twnnel.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Drych, 5 Tachwedd 1914 (DW-T)
- ↑ awdur y traethawd: WILLIAM WILLIAMS. Bod y Gof, Llanberis
- ↑ 3.0 3.1 Cys. Pers. Huw Hughes (Llanberis, Cadeirydd Cymdeithas Pysgotwyr Seiont, Gwyrfai a Llyfni