Copr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ArthurBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: xal:Зес
Dim crynodeb golygu
Llinell 10:
 
Mae galwad uchel am gopr wedi achosi codiad mawr mewn pris copr ar y marchnadoedd rhyngwladol ers 2000.
 
==Lliw==
Mae i fetel copr lliw coch, oren neu frown fel arfer, am fod haen o amhureddau (megis [[ocsid]]au copr) yn ffurfio lle mae copr yn dodi gyswllt ag [[aer]]. Er hyn, lliw pinc hufenog sydd gan gopr pur. Ynghyd ag [[Osmiwm]] (glas) ac [[Aur]], mae'n un o'r unig dri metel elfennol nad yw'n llwyd neu'n arian ei liw; daw'r lliw llwyd o'r [[môr electronau]] sy'n gallu amsugno ac ail-allyrru golau ar ystod o donfeddi. Mae lliw anarferol Copr yn ganlyniad i'w [[strwythr electronig]] unigryw. Yn ôl [[rheol Madelung]], dylid llenwi'r is-blisgyn [[4s]] cyn llenwi'r plisgyn [[3d]], ond mae Copr yn eithriad i'r rheol gan fod ganddo'r strwythur (Ar) 3d 10 4s 1 (hynny yw, mae'r is-blisgyn 4s yn hanner llawn, a'r 3d yn llawn). Mae lefel egni un [[photon]] o olau glas neu fioled yn cyfateb i'r naid rhwng y plisgyn 3d a'r plisgyn 4s. Felly mae'n amsugno golau glas a fioled wrth ddyrchafu electronnau i blisgyn 4s, gan rhoi lliw coch iddo gan fod y golau coch yn cael ei adlewyrchu. Mae effaith tebyg i'w weld gydag electronau 5s/4d mewn [[Aur]]. Yn eu cyflyrau hylifol, mae arwyneb copr ac aur yn ymddangos yn wyrdd os nad oes golau yn disgleirio arno o'r tu allan, ond dan olau cryf mae lliw pinc copr yn dal i'w weld.
 
== Gweler hefyd ==