Albert Evans-Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 26:
 
==Byd y Ddrama==
Yn ogystal â bod yn un o feirdd a llenorion pwysicaf Cymru ei gyfnod, gwnaed cyfraniad enfawr i fyd y ddrama gan Cynan hefyd. Ysgrifennodd dwy ddrama hir: ''Hywel Harris'' a enillodd prif wobr yr Eisteddfod ar gyfer drama ym 1931. Ym 1957 fe'i comisiynwyd i ysgrifennu drama ar gyfer ei berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol sef ''[[Absolom Fy Mab]]'' Addasodd ddwy ddrama o'r Saesneg, ''Lili'r Grog'' ( John Masefield ), a ''Hen ŵr y mynydd'' ( Norman Nicholson ), a berfformiwyd gyntaf ar daith gan gwmni'r Genhinen ym 1949, a Cynan ei hun yn gyfarwyddwr.
 
Ym 1931 fei penodwyd yn ''ddarllenydd dramâu Cymraeg'' ar ran yr Arglwydd Siambrlen er mwyn sicrhau bod dramâu Cymraeg yn gadw at gofynion y deddfau sensoriaeth, parhaodd yn y swydd nes diddymu'r deddfau sensoriaeth ym 1968 Yr oedd yn cael ei ystyried yn sensro rhyddfrydol, er enghraifft fe wnaeth caniatáu perfformio drama [[James Kitchener Davies]] ''Cwm y Glo'', er iddo gael ei feirniadu am fod ''mor fasweddus fel na ddylid byth mo'i pherfformio'' pan enillodd wobr drama Eisteddfod Castell Nedd ym 1934.<ref>[http://www.thefreelibrary.com/%3A+Ail+godi+nyth+cacwn+anfoesoldeb+y+werin+bobol.(Features)-a088998994] Ail godi nyth cacwn</ref>