Charlotte Church: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Erthygl newydd using AWB
Llinell 10:
 
==Bywyd cynnar==
Ganwyd Charlotte Maria Reed yn [[Llandaf]] ger [[Caerdydd]]. Cafodd ei magu gan ei mam Maria ac ei thad Steve ond gwahanodd y ddau, a chafodd ei mabwysiadu yn 1999 gan ail ŵr Maria sef James Church. Roedd yn amlwg iawn fod Charlotte yn dalentog o oedran ifanc, a chafodd y siawns i ganu cân [[Andrew Lloyd Webber]] '''Pie Jesu''' dros y ffon ar y sioe ''This Morning'' yn 1997.
 
==Gyrfa gerddorol==
Llinell 19:
Yn 2005 rhyddhaodd Charlotte ei albwm pop gyntaf sef '''Tissues and Issues'''. Rhyddhawyd pedwar sengl oddi ar yr albwm ym Mhrydain. Aeth "Crazy Chick" i rif 2 ar y siartiau, "Call My Name" i rif 10, "Even God Can’t Change The Past" i rhif 17, ac "Mood Swings" i rhif 14. Er bod yr albwm wedi cael ei rhyddhau yn Awstralia, ni chyrhaeddodd yr un lefel o lwyddiant yno. Yn 2006 perfformiodd Charlotte yng [[Glasgow|Nglasgow]], [[Llundain]] ac yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] mewn lleoliadau sy’n dal rhwng 2,000 ac 3,000 o bobl.
 
Yn 2006 cyhoeddwyd fod cytundeb Charlotte hefo [[Sony]] wedi dod i ben ar ôl cyfnod o 12 mlynedd.
 
Roedd yna ddyfalu bod Charlotte wedi cymryd seibiant o’i gyrfa canu i ganolbwyntio ar ei sioe deledu, ond roedd Charlotte yn feichiog gyda’i merch Ruby Megan Henson.
 
Yn 2007 daeth Charlotte yn noddwr elusen '''The Topsy Foundation''' i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer rhoi cymorth i gymunedau gwledig yn Ne Affrica i helpu pobl oedd yn dioddef o HIV neu AIDS.
 
Ar 4 Awst 2010, rhyddhaodd gân newydd o’r enw "Cold California" , cyn rhyddhau albwm arall ar 25 Hydref 2010 o’r enw ''Back To Scratch''. Roedd yr albwm yn cynnwys 14 o ganeuon ac fe'i gynhyrchwyd gan [[Martin Terefe]]. Ysbrydolwyd ''Back To Scratch'' yn wreiddiol gan "problemau gydag aelod o’r teulu" ac mewn cyfweliad soniodd Charlotte am ei thristwch ac effaith gwahanu oddi wrth [[Gavin Henson]].
 
==Gwaith Teledu==
 
Mae Church wedi gwneud sawl ymddangosiad ar raglenni teledu. Cymerodd ran yn sioe deledu '''Touched By Angels''' CBS, a roedd ganddi brif ran ym mhennod Nadoligaidd o ''Heartbeat'' yn 1999. Yn 2002, 2003, 2012 ymddangosodd ar '''Have I Got News For You'''. Yn 2005 ymddangosodd ar y ''Catherine Tate Show'' ac ar ''Katy Brand’s Big Ass Show'' yn 2008.
 
Dechreuodd Charlotte weithio ar ei sioe deledu '''The Charlotte Church Show''' yn 2006 ac enillodd wobr British Comedy Award am “Best Female Newcomer 2006” ac “Funniest TV Personality” gan Loaded Magazine. Yn 2008 enebwyd Church am wobr arbennig Rose D’or am y "Diddanwr Gorau".
 
Yn 2010 ymddangosodd Church ym mhennod olaf y sioe deledu ''Hospital 24/7'' pan ymwelodd ag Ysbyty Plant Cymru i lansio ei hymgyrch '''Noah’s Ark''', sydd yn codi arian at gael offer meddygol newydd. Yn 2018 lansiodd Charlotte sioe deledu arall oedd ar BBC One am broblemau meddyliol ac yr ymchwil sydd yn mynd i mewn i'w wella.
Llinell 37:
==Bywyd personol==
 
Ar 20 Medi 2007 cafodd Church ferch o’r enw Ruby Megan Henson, dwy flwyddyn wedyn cafodd ei mab, Dexter Lloyd Henson. Ar ddiwedd 2005 [rynodd y cwpl eiddo yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] - gwerth £500,000 - yna gwerthodd yr eiddo am £900,000. Yna prynodd y cwpl faenor gyda thir o 20 erw (8 hectar) ym Mro Morgannwg ym mhentref Sain Ffraid. Wnaeth y cwpl sôn am briodas ar sioeau siarad. Yn 2007, gwnaeth Church ymddangosiad arall ar restr gyfoethog pobl ifanc Prydain gyda Henson. Cafodd ei restru fel rhif 49 ar siart pobol ifanc gyfoethocaf Prydain. Yn Mai 2010, cyhoeddwyd fod Church a’i gŵr, Gavin Henson wedi gwahanu.
 
Ers 2007 roedd Church mewn perthynas gyda’r cerddor Johnny Powell, a priododd y ddau ar 4 Hydref 2017.
 
==Llyfrau==
Llinell 90:
 
{{Rheoli awdurdod}}
 
 
{{DEFAULTSORT:Church, Charlotte}}