Charlotte Church

cantores o Gymraes

Cantores Cymreig o Gaerdydd yw Charlotte Church (ganwyd Charlotte Maria Reed, 21 Chwefror 1986). Mae hefyd wedi cyflwyno sioe ei hun ar y teledu ac wedi cymryd diddordeb cryf mewn gwleidyddiaeth adain chwith. Soprano yw Charlotte Church a ddechreuodd ei gyrfa pan oedd yn ifanc, dechreuodd gyda cherddoriaeth glasurol ac yna cerddoriaeth pop yn 2005. Erbyn 2007 roedd Church wedi gwerthu mwy na 10 miliwn o albymau yn fyd-eang. Cyflwynodd sioe ar Channel 4 o’r enw The Charlotte Church Show ac roedd yn westai ar lawer o sioeau eraill. Mae Church wedi canu yn Saesneg, Cymraeg a Ffrangeg. Ym mis Tachwedd 2010, dywedwyd yng nghylchgrawn "Heat" fod ganddi ffortiwn o £10.3 miliwn.[1]

Charlotte Church
Charlotte Church yn perfformio yng ngŵyl Focus Wales, 2013
GanwydCharlotte Maria Reed Edit this on Wikidata
21 Chwefror 1986 Edit this on Wikidata
Llandaf Edit this on Wikidata
Label recordioSony Music, Columbia Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, canwr-gyfansoddwr, canwr opera, karateka, actor ffilm, awdur, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, operatic pop, roc indie, roc amgen, indie pop, cerddoriaeth glasurol, cerddoriaeth Celtaidd Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata
Taldra164 ±1 centimetr Edit this on Wikidata
PriodGavin Henson Edit this on Wikidata
Gwobr/auQ113031066 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://charlottechurchmusic.com/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Charlotte Maria Reed yn Llandaf ger Caerdydd. Cafodd ei magu gan ei mam Maria ac ei thad Steve ond gwahanodd y ddau, a chafodd ei mabwysiadu yn 1999 gan ail ŵr Maria sef James Church. Roedd yn amlwg iawn fod Charlotte yn dalentog o oedran ifanc, a chafodd y siawns i ganu cân Andrew Lloyd Webber Pie Jesu dros y ffon ar y sioe This Morning yn 1997.

Gyrfa gerddorol golygu

Yn dilyn hyn canodd ar y sioe deledu Big, Big Talent Show yr un flwyddyn. Cafodd y gyfle i ganu ym mhriodas Wendy Deng a Rupert Murdoch yn 1999. O ganlyniad i'w pherfformiad cafodd wahoddiad i ganu ym Mharc yr Arfau, Caerdydd, y Royal Albert Hall ac agor sioe Dame Shirley Bassey yn Antwerp. Derbyniodd Charlotte ysgoloriaeth canu i Ysgol Howells, Llandaf a dyna ble ddechreuodd yn 1998 ar ôl gadael Ysgol Gatholig Llandaf. Gyda chymorth tiwtoriaid roedd yn gallu perfformio a gwneud gwaith ysgol fel unrhyw ferch ei hoed. Gadawodd Charlotte yr ysgol yn 16.

Yn 2003 ymunodd Charlotte gyda Jurden Vries i ganu ar un o’i ganeuon The Opera Song (Brave New World). Cyrhaeddodd y gân rif tri ar y siartiau pop Prydeinig; dyna oedd yr ail waith iddi fod yn y siartiau efo sengl uchaf Church a sengl uchaf Vries.

Yn 2005 rhyddhaodd Charlotte ei albwm pop gyntaf sef Tissues and Issues. Rhyddhawyd pedwar sengl oddi ar yr albwm ym Mhrydain. Aeth "Crazy Chick" i rif 2 ar y siartiau, "Call My Name" i rif 10, "Even God Can’t Change The Past" i rhif 17, ac "Mood Swings" i rhif 14. Er bod yr albwm wedi cael ei rhyddhau yn Awstralia, ni chyrhaeddodd yr un lefel o lwyddiant yno. Yn 2006 perfformiodd Charlotte yng Nglasgow, Llundain ac yng Nghaerdydd mewn lleoliadau sy’n dal rhwng 2,000 ac 3,000 o bobl.

Yn 2006 cyhoeddwyd fod cytundeb Charlotte hefo Sony wedi dod i ben ar ôl cyfnod o 12 mlynedd.

Roedd yna ddyfalu bod Charlotte wedi cymryd seibiant o’i gyrfa canu i ganolbwyntio ar ei sioe deledu, ond roedd Charlotte yn feichiog gyda’i merch Ruby Megan Henson.

Yn 2007 daeth Charlotte yn noddwr elusen The Topsy Foundation i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer rhoi cymorth i gymunedau gwledig yn Ne Affrica i helpu pobl oedd yn dioddef o HIV neu AIDS.

Ar 4 Awst 2010, rhyddhaodd gân newydd o’r enw "Cold California" , cyn rhyddhau albwm arall ar 25 Hydref 2010 o’r enw Back To Scratch. Roedd yr albwm yn cynnwys 14 o ganeuon ac fe'i gynhyrchwyd gan Martin Terefe. Ysbrydolwyd Back To Scratch yn wreiddiol gan "problemau gydag aelod o’r teulu" ac mewn cyfweliad soniodd Charlotte am ei thristwch ac effaith gwahanu oddi wrth Gavin Henson.

Gwaith Teledu golygu

Mae Church wedi gwneud sawl ymddangosiad ar raglenni teledu. Cymerodd ran yn sioe deledu Touched By Angels CBS, a roedd ganddi brif ran ym mhennod Nadoligaidd o Heartbeat yn 1999. Yn 2002, 2003, 2012 ymddangosodd ar Have I Got News For You. Yn 2005 ymddangosodd ar y Catherine Tate Show ac ar Katy Brand’s Big Ass Show yn 2008.

Dechreuodd Charlotte weithio ar ei sioe deledu The Charlotte Church Show yn 2006 ac enillodd wobr British Comedy Award am “Best Female Newcomer 2006” ac “Funniest TV Personality” gan Loaded Magazine. Yn 2008 enebwyd Church am wobr arbennig Rose D’or am y "Diddanwr Gorau".

Yn 2010 ymddangosodd Church ym mhennod olaf y sioe deledu Hospital 24/7 pan ymwelodd ag Ysbyty Plant Cymru i lansio ei hymgyrch Noah’s Ark, sydd yn codi arian at gael offer meddygol newydd. Yn 2018 lansiodd Charlotte sioe deledu arall oedd ar BBC One am broblemau meddyliol ac yr ymchwil sydd yn mynd i mewn i'w wella.

Bywyd personol golygu

Ar 20 Medi 2007 cafodd Church ferch o’r enw Ruby Megan Henson; ddwy flwyddyn wedyn cafodd ei mab, Dexter Lloyd Henson. Ar ddiwedd 2005 [rynodd y cwpl eiddo yng Nghaerdydd - gwerth £500,000 - yna gwerthodd yr eiddo am £900,000. Yna prynodd y cwpl faenor gyda thir o 20 erw (8 hectar) ym Mro Morgannwg ym mhentref Sain Ffraid. Wnaeth y cwpl sôn am briodas ar sioeau siarad. Yn 2007, gwnaeth Church ymddangosiad arall ar restr gyfoethog pobl ifanc Prydain gyda Henson. Cafodd ei restru fel rhif 49 ar siart pobol ifanc gyfoethocaf Prydain. Yn Mai 2010, cyhoeddwyd fod Church a’i gŵr, Gavin Henson wedi gwahanu.

Ers 2007 roedd Church mewn perthynas gyda’r cerddor Johnny Powell, a priododd y ddau ar 4 Hydref 2017.

Llyfrau golygu

Mae Charlotte wedi ysgrifennu 2 fywgraffiad. Ysgrifennodd y cyntaf pan oedd yn 14 oed a gafodd ei gyhoeddi yn 2000 Voice Of An Angel (My Life So Far). Cafodd yr ail fywgraffiad Keep Smiling ei gyhoeddi yn 2007.

Ffilmyddiaeth golygu

Teledu
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1997 Touched by an Angel Alice
1999 Heartbeat Katie Kendall Rhan gwadd
2003, 2012 Have I Got News For You Ei hun Cyflwynydd
2003 I'll Be There Olivia Edmonds Prif rhan
2005 The Catherine Tate Show Ei hun Rhan 'cameo'
2006–2008 The Charlotte Church Show Ei hun Cyflwynydd
2008 Katy Brand's Big Ass Show Amrywiol Rhan gwadd
2010 Hospital 24/7 Ei hun Rhan gwadd
2015 Dan y Wenallt Polly Garter
2018 Charlotte Church: Inside My Brain Ei hun Cyflwynydd

Albymau golygu

  • Voice of an Angel (1998)
  • Charlotte Church (1999)
  • Dream a Dream (2000)
  • Enchantment (2001)

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu