Daearwleidyddiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Dadansoddiad o ddylanwadau daearyddiaeth ar gysylltiadau rhyngwladol a gwleidyddiaeth fyd-eang yw '''daearwleidyddiaeth''...'
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
B Kjellén
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
Llinell 1:
Dadansoddiad o ddylanwadau [[daearyddiaeth]] ar [[cysylltiadau rhyngwladol|gysylltiadau rhyngwladol]] a gwleidyddiaeth fyd-eang yw '''daearwleidyddiaeth'''. Rhoddir sylw i leoliad, yr [[amgylchedd]] ac [[hinsawdd]], tirwedd a [[tirffurf|thirffurfiau]], [[priddeg]], adnoddau naturiol, a daearyddiaeth leol, a'r effaith sydd gan y rheiny ar gysylltiadau a gwrthdaro rhwng [[gwladwriaeth]]au a [[gweithredydd (cysylltiadau rhyngwladol)|gweithredyddion]] eraill. Ers ail hanner yr 20g, mae'r maes wedi ymwneud yn fwy ag agweddau o [[daearyddiaeth ddynol|ddaearyddiaeth ddynol]], er enghraifft [[demograffeg]], [[cludiant]] a [[cyfathrebu|chyfathrebu]].
 
Y [[gwyddor gwleidyddiaeth|gwyddonydd gwleidyddol]] o Sweden [[Rudolf KjeflenKjellén]] oedd y cyntaf i ddefnyddio'r enw, ym 1916, a chafodd y ddamcaniaeth ei datblygu gan y daearyddwr Almaenig Karl Haushofer. Ymledodd trwy Ewrop yn [[y cyfnod rhwng y rhyfeloedd]], yn enwedig [[Canolbarth Ewrop]], a daeth i sylw ysgolheigion mewn gwledydd eraill yn ystod [[yr Ail Ryfel Byd]]. Defnyddiwyd syniadau daearwleidyddol i gyfiawnhau ymlediaeth drefedigaethol, gan gynnwys [[Tynged Amlwg]] yn [[yr Unol Daleithiau]] a ''[[Lebensraum]]'' yn [[yr Almaen Natsïaidd]]. Adeiladodd y maes ar draddodiad gwleidyddol Ewrop y gellir ei olhrain i'r [[Henfyd]], pan ysgrifennai'r hen Roegiaid ar bwysigrwydd [[tir amaethyddol|tir âr]] a mynediad i'r môr, yn ogystal ag athronwyr, hanesyddion a llenorion yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g.<ref>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/topic/geopolitics |teitl=Geopolitics |dyddiadcyrchiad=26 Mawrth 2018 }}</ref>
 
== Gweler hefyd ==