Gwent Uwch Coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
sillafu
Llinell 3:
Roedd coedwig fawr [[Coed Gwent]] yng nghanol yr hen deyrnas yn ei rhannu'n ddwy uned naturiol ac felly fe'u gelwid yn Went Uwch Coed a Gwent Is Coed. Gwent Uwch Coed oedd y mwyaf o'r ddau gantref o ran ei arwynebedd ond y lleiaf ei boblogaeth. Gorweddai i'r gogledd o Goed Gwent. Ffiniai â chantref Gwent Is Coed i'r de, [[Gwynllwg]] i'r gorllewin, [[Brycheiniog]] ac [[Ewias|Ewias Lacy]] i'r gogledd, a hen deyrnas a chantref [[Ergyng]] i'r dwyrain (rhan o [[Swydd Henffordd]] yn ddiweddarach).
 
Nodweddid Gwent Uwch Coed gan nifer o [[llan|lannau]] ac [[eglwys]]i bychain. ArosoddArhosodd yr ardal yn gadarnle i'r [[Cymry]] lleol ar ôl i Went gael ei goresgyn gan y [[Normaniaid]] erbyn y [[1070au]]. Er ei bod dan reolaeth y Normaniaid ar ôl hynny roedd y gymdeithas Gymreig wedi goroesi ac roedd gwŷr Gwent Is Coed yn barod iawn i gefnogi'r tywysogion Cymreig yn erbyn y Normaniaid a'r [[Saeson]].
 
Rhennid y cantref yn dri [[cwmwd|chwmwd]], sef [[Abergefenni (cwmwd)|Abergefenni]], [[Teirtref]] a [[Trefynwy (cwmwd)|Threfynwy]].