Ann Griffiths: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 18:
 
==Priodas a marwolaeth==
 
[[Delwedd:Llanfihangel-yng-Ngwynfa - geograph.org.uk - 426679.jpg|bawd|chwith|bedd Ann Griffiths]]
Ym 1801 derbyniwyd Thomas Griffiths yn aelod o’r seiat Fethodistaidd yn ei gartref yn y Cefn-du, Cegidfa a chafodd ei ethol yn flaenor yn fuan wedyn. Symudodd Griffiths i fferm y Ceunant, Meifod ym 1804, ac yn ôl ei arfer yn ei hen gartref dechreuodd cynnal cyfarfodydd crefyddol yn ei gartref newydd. Bu Ann yn mynychu'r oedfaon y Ceunant. Priododd Ann a Thomas Griffiths yn Eglwys Llanfihangel-yng-ngwynfa ym mis Hydref 1804. <ref>{{Cite web|url=https://bywgraffiadur.cymru/article/c-GRIF-ANN-1776|title=GRIFFITHS, ANN (1776 - 1805), emynyddes|date=|access-date=25 Awst 2019|website=Y Bywgraffiadur|last=Roberts|first=G. M|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> Ar 13 Gorffennaf 1805 ganwyd Elizabeth, merch Thomas ac Ann ond bu farw cyn pen y mis. Pythefnos ar ôl marwolaeth ei babi bu farw Ann hefyd o anhwylder ôl-esgorol yn 29 mlwydd oed. Claddwyd Elizabeth ac Ann Griffiths ym mynwent Eglwys Llanfihangel yng Ngwynfa
 
==Emynau==
Cyn ei thröedigaeth bu Ann yn cyfansoddi rhigymau byddai'n adrodd i'w hun a'i chyfeillion er mwyn diddanwch. Wedi ei thröedigaeth dechreuodd Ann gyfansoddi cerddi crefyddol y lle'r rhigymau ac eto yn eu hadrodd wrth fynd o amgylch ei ddyletswyddau ar y fferm. Gwnaeth tad Ann cofnod o rai o'i cherddi crefyddol cyn iddo farw ym 1802. Roedd morwyn o'r enw Ruth Evans yn gweithio yn Nolwar Fach ac fe gadwodd hi nifer o gerddi crefyddol Ann ar ei chof, wedi clywed ei feistres yn eu hadrodd. Priododd Ruth Evans pregethwr Methodistaidd o'r enw John Hughes, wedi marwolaeth Ann fe wnaeth John Hughes cofnod o'r cerddi roedd ei wraig yn eu cofio. Ym 1806 cyhoeddwyd y cerddi roedd Hughes a Thad Ann wedi cofnodi mewn cyfrol o'r enw ''Casgliad o Hymnau'' a daeth yn gyfrol boblogaidd iawn. Mae nifer o emynau Ann yn cael eu canu yn gynulleidfaol o hyd gyda 14 ohonynt yn ymddangos yn ''Caneuon Ffydd'', y gyfrol gyd enwadol o emynau a gyhoeddwyd yn 2001. <ref>{{Cite book|title=Cydymaith caneuon ffydd|url=https://www.worldcat.org/oclc/123536494|publisher=Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol|date=2006|location=[Caernarfon]|isbn=9781862250529|oclc=123536494|last=Morgans|first=Delyth G|year=|pages=532}}</ref> Mae'n debyg mae ei emyn enwocaf yw Wele'n Sefyll Rhwng y Myrtwydd, sy'n cael ei ganu'n aml ar y dôn ''Cwm Rhondda.'' <ref>{{Cite book|title=Caneuon ffydd|url=https://www.worldcat.org/oclc/48791307|publisher=Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol|date=2001|location=|isbn=1903754038|oclc=48791307|others=Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol., Cysodwyd y gerddoriaeth gan Curiad), argraffwyd gan Wasg Gomer|last=|first=|year=|pages=}}</ref>
[[Delwedd:Llanfihangel-yng-Ngwynfa - geograph.org.uk - 426679.jpg|bawd|chwith|bedd Ann Griffiths]]
{| class="wikitable"
|<poem>