Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Iwerddon"

Lleihawyd o 33 beit ,  8 mis yn ôl
B
Wedi gwrthdroi golygiadau gan Arlene Foster dos nol i dy ogof (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Dafyddt.
B (Wedi gwrthdroi golygiadau gan Arlene Foster dos nol i dy ogof (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Dafyddt.)
Tagiau: Rollback
 
Parhaodd cenedlaetholdeb yn gryf, a bu nifer o wrthryfeloedd yn ystod hanner cyntaf y [[19g]]. Bu hefyd ymgyrchoedd am hunanlywodraeth trwy ddulliau seneddol, ac yn y 1870au daeth hyn yn bwnc llosg trwy ymdrechion [[Charles Stewart Parnell]]. Cyflwynodd y prif weinidog Prydeinig [[William Ewart Gladstone]] ddau fesur i roi hunanlywodraeth i Iwerddon yn 1886 a 1893, ond gorchfygwyd hwy yn Nhy'r Cyffredin. Yn [[1910]] roedd y [[Plaid Seneddol Wyddelig|Blaid Seneddol Wyddelig]] dan [[John Redmond]] mewn sefyllfa gref yn Nhy'r Cyffredin, gyda'r Rhyddfrydwyr yn dibynnu ar eu cefnogaeth i barhau mewn grym. Yn 1912 cyflwynwyd mesur arall i roi hunanlywodraeth i Iwerddon o fewn y Deyrnas Gyfunol, ond gwrthwynebwyd hyn yn gryf gan y Protestaniaid yn y gogledd-ddwyrain. Rhoddodd dechreuad y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] yn [[1914]] derfyn ar y mesur am y tro.
 
Yn [[1916]] bu gwrthryfel arall, [[Gwrthryfel y Pasg]], gydag ymladd ffyrnig yn ninas [[Dulyn]] dros wythnos y [[Pasg]]. Gorchfygwyd y gwrthryfel gan y fyddin Brydeinig a dienyddiwyd nifer o'r arweinwyr, yn cynnwys [[Padraig Pearse]] a [[James Connolly]]. Fodd bynnag, trodd hyn lawer o boblogaeth Iwerddon o blaid annibyniaeth lwyr. Yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918|Ethloliad Cyffredinol 1918]], collodd y Blaid Seneddol Wyddelig, oedd yn ceisio hunanlywodraeth, bron y cyfan o'u seddau yn Iwerddon i [[Sinn Féin]], oedd yn hawlio annibyniaeth lwyr. Roedd llawer o'r rhai a gymerodd ran yn y gwrthryfel ymysg y rhai a sefydlodd y [[Dáil Cyntaf]] yn [[1919]], yn eu plith [[Éamon de Valera]] a [[Michael Collins]]. Datblygodd rhyfel rhwng [[Byddin Weriniaethol Iwerddon]] (yr I.R.A) a'r fyddin Brydeinig a'i hunedau cynorthwyol megis y "Black and Tans". Yn [[1922]] arwyddwyd cytundeb rhwng yr arweinwyr Gwyddelig, [[Arthur Griffith]] a Michael Collins, a'r llywodraeth Brydeinig dan [[David Lloyd George]]. Roedd y cytundeb yma yn rhoi annibyniaeth i 26 o siroedd Iwerddon, gan greu [[Gweriniaeth Iwerddon]], ond gyda chwech sir yn y gogledd-ddwyrain, lle roedd y mwyafrif o'r boblogaeth yn Brotestaniaid, yn parhau yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Arlene Foster dos nol i dy ogof.
 
==Daearyddiaeth==