Owain Owain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Manion
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
| dateformat = dmy
}}
Roedd '''Owain Owain''' ([[11 Rhagfyr]] [[1929]] – [[19 Rhagfyr]] [[1993]])<ref>Mynegai Marwolaethau Lloegr a Chymru, Owain Owain, Rhagfyr 1993, Dyddiad Geni: 11 Rhagfyr 1929, Ardal Cofrestru: Caernarfon, Rhif Cofrestr: 40, Rhif Cofnod: 46</ref> yn [[llenor]] toreithiog, [[gwleidydd]], [[gwyddoniaeth|gwyddonydd niwclear]] a [[darlithydd]] [[Cymry|Cymreig]] ac yn sefydlydd a golygydd cyntaf [[Tafod y Ddraig]] ac un o sefydlwyr [[Cymdeithas yr Iaith]]. Ef, yn fwy na neb arall, a 'osododd seiliau Cymdeithas gan ei chreu'n fudiad ymgyrchu effeithiol' yn ôl [[Dafydd Iwan]] yn ei gyfrol ''[[Pobl Dafydd Iwan]]''.<ref>''[[Pobol Dafydd Iwan]]'', [[Gwasg y Lolfa]] (2015) (tudalen 125)</ref> Seiliwyd albwm [[Gwenno Saunders]] ''[[Y Dydd Olaf (albwm)]]'' ar nofel wyddonias, brffwydolbroffwydol o'r un enw gan Owain Owain.
 
==Bywgraffiad==
Ganed Owain Owain yn fab i Richard Alfred Owen (chwarelwr) a Mary Jones ar [[11 Rhagfyr]] [[1929]] yn 22 Lôn Caernarfon, [[Pwllheli]], cyn symud yn 1946 i "Talarfor", Ffordd y Cob, Pwllheli. Oddi yno, yn Hydref 1948 hyd at Gorffennaf 1952, symudodd i 108 Ffordd y Castell, [[Maesgeirchen]], lle arhosodd tra'n fyfyriwr.<ref>[http://www.owainowain.net/ Gwefan Owain Owain]</ref> Yn y Coleg, cyfarfu ag Eira merch fferm o Ben-bre, a oedd hefyd yn fyfyriwr. Wedi gorffen gradd meistr mewn Cemeg ym Mhrifysgol Bangor yn 1952, fe'i consgritiwydconsgriptiwyd i'r fyddin lle bu'n swyddog am ddwy flynedd, nes iddo bledio ei fod yn heddychwr. Symudwyd ef yn un o reolwyr Windscale, Cumbria, oherwydd ei arbenigedd mewn ffiseg a chemeg. Gyn 1954 ac 1955, gweithiodd Owain fel athro yn Llundain gan aros yn 19 York Street ac yna 125 Dawlish Road, Leyton.
 
Daeth yn sefydlydd a golygydd cyntaf ''[[Tafod y Ddraig]]''. Ym [[Bangor|Mangor]], sefydlodd y syniad o “gelloedd” drwy sefydlu cell cyntaf y Gymdeithas, ac ef oedd ei hysgrifennydd cyntaf. Dywed Dafydd Iwan i Owain “roi'r frwydr mewn cyd-destun byd-eang”. Creodd yn y Gymraeg y cysyniadau o 'Gyfoeth yr Amrywiaeth' ac ysgrifennodd yn helaeth yn erbyn 'y llwydni llwyd' a'r 'Ddelwedd Fawr'.