Rhodri Glyn Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
gwybodlen |
Dyfrig (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 20:
Ganwyd ef yn [[Wrecsam]], gweinidog o [[Llangadog|Langadog]] oedd tadcu Rhodri Glyn Thomas. Magwyd ei dad yn Llangadog a bu'n athro yn Ysgol Ramadeg y [[Gwendraeth]]. Aeth Rhodri i Ysgol Bodhyfryd, Wrecsam, ac yna i Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam cyn gadael am [[Prifysgol Cymru, Aberystwyth|Brifysgol Cymru, Aberystwyth]] ym [[1975]] i astudio am radd yn y [[Gymraeg]]. Wedi graddio ym [[1978]], astudiodd am radd BD mewn [[Diwinyddiaeth]] ym [[Prifysgol Cymru, Bangor|Mhrifysgol Cymru, Bangor]]. Ym [[1991]] astudiodd Rhodri am radd MTh ym [[Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan|Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan]], yn darllen [[Diwinyddiaeth]] [[Yr Unol Daleithiau|Americanaidd]].
Ym [[1992]] ymladdodd hen sedd seneddol [[Caerfyrddin]] yn yr [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1992|Etholiad Cyffredinol]] dros y Blaid. Yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1997|Etholiad Cyffredinol 1997]] safodd yn etholaeth [[Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr (etholaeth seneddol)|Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr]]. Ym [[1999]] ymladdodd yr un etholaeth yn etholiadau'r [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Cynulliad]] gan ennill o 6,980 o bleidleisiau a chynyrchu ''swing'' enfawr o 21% yn erbyn y [[Y Blaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]]. Cadwodd y sedd yn etholiadau'r Cynulliad yn [[2003]] a [[2007]].
Ei brif ddiddordebau gwleidyddol yw Materion Gwledig; Materion Cymdeithasol; Busnes ac [[Economeg]]; [[Trafnidiaeth]]. Fe yw Gweinidog yr Wrthblaid ar [[Iechyd]] a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Cynulliad Cenedlaethol ac yn Ddirprwy Arweinydd Grwp Plaid Cymru yn y Cynulliad ac yn aelod o'r Pwyllgor Iechyd a'r Pwyllgor Materion [[Ewrop]]eaidd.
{{dechrau-bocs}}
|