Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Severo Sarduy"

Lleihawyd o 11 beit ,  3 mis yn ôl
→‎top: Newid enw'r wybodlen using AWB
(#wici365)
Tagiau: 2017 source edit
 
(→‎top: Newid enw'r wybodlen using AWB)
[[Nofelydd]], [[bardd]], [[beirniad llenyddol]], ac [[ysgrifwr]] o [[Ciwbawyr|Giwba]] yn yr iaith [[Sbaeneg]] oedd '''Severo Sarduy''' ([[25 Chwefror]] [[1937]] – [[8 Mehefin]] [[1993]]).
 
Ganwyd yn Camagüey, [[Ciwba]], i deulu dosbarth-gweithiol o dras [[Sbaenwyr|Sbaenaidd]], [[Affricanwyr|Affricanaidd]], a [[Tsieineaid|Tsieineaidd]]d. Astudiodd feddygaeth yn [[La Habana]] yng nghanol y 1950au. Yno daeth yn gyfarwydd â llenorion megis [[José Rodríguez Feo]] a [[José Lezama Lima]]. Cyhoeddodd Sarduy ei gerddi cyntaf yn y cylchgrawn ''Ciclón''.<ref name=EB/>
 
Yn sgil [[Chwyldro Ciwba]] yn 1959, danfonwyd Sarduy i [[Ffrainc]] gan y llywodraeth yn 1960 i astudio celf yn yr École du Louvre. Wedi i'w ysgoloriaeth ddod i ben, penderfynodd Sarduy beidio â dychwelyd i Giwba. Teimlodd yn ddieithr yn sgil sensoriaeth gan lywodraeth [[Fidel Castro]] ac erledigaeth yn erbyn dynion hoyw yng Nghiwba, a ni dychwelodd i'w famwlad hyd ei oes. Ym [[Paris|Mharis]] daeth Sarduy yn gysylltiedig â ''Tel Quel'', cyfnodolyn a hyrwyddai adeileddaeth ac ysgrifennu arbrofol. Roedd hefyd yn ysgrifennu i ''Mundo Nuevo'', cylchgrawn llenyddol Sbaeneg a gyfarwyddwyd gan [[Emir Rodríguez Monegal]].<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Severo-Sarduy |teitl=Severo Sarduy |dyddiadcyrchiad=15 Medi 2019 }}</ref>
380,695

golygiad