Nofelydd, bardd, beirniad llenyddol, ac ysgrifwr o Giwba yn yr iaith Sbaeneg oedd Severo Sarduy (25 Chwefror 19378 Mehefin 1993).

Severo Sarduy
Ganwyd25 Chwefror 1937 Edit this on Wikidata
Camagüey Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mehefin 1993 Edit this on Wikidata
o AIDS related disease Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCiwba, Ffrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg y Louvre Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, bardd, dramodydd, ysgrifennwr, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
PartnerFrançois Wahl Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Médicis am lenyddiaeth dramor Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Camagüey, Ciwba, i deulu dosbarth-gweithiol o dras Sbaenaidd, Affricanaidd, a Tsieineaidd. Astudiodd feddygaeth yn La Habana yng nghanol y 1950au. Yno daeth yn gyfarwydd â llenorion megis José Rodríguez Feo a José Lezama Lima. Cyhoeddodd Sarduy ei gerddi cyntaf yn y cylchgrawn Ciclón.[1]

Yn sgil Chwyldro Ciwba yn 1959, danfonwyd Sarduy i Ffrainc gan y llywodraeth yn 1960 i astudio celf yn yr École du Louvre. Wedi i'w ysgoloriaeth ddod i ben, penderfynodd Sarduy beidio â dychwelyd i Giwba. Teimlodd yn ddieithr yn sgil sensoriaeth gan lywodraeth Fidel Castro ac erledigaeth yn erbyn dynion hoyw yng Nghiwba, a ni dychwelodd i'w famwlad hyd ei oes. Ym Mharis daeth Sarduy yn gysylltiedig â Tel Quel, cyfnodolyn a hyrwyddai adeileddaeth ac ysgrifennu arbrofol. Roedd hefyd yn ysgrifennu i Mundo Nuevo, cylchgrawn llenyddol Sbaeneg a gyfarwyddwyd gan Emir Rodríguez Monegal.[1]

Ymhlith ei lyfrau mae'r nofelau Gestos (1963), De donde son los cantantes (1967), Cobra (1972), a Maitreya (1978), a'r casgliad o frasluniau llenyddol El Cristo de la rue Jacob (1987).

Bu farw ym Mharis o AIDS yn 56 oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Severo Sarduy. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Medi 2019.