Richard Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

esgob a chyfieithydd yr Ysgrythur
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: :''Am enghreifftiau eraill o bobl o'r enw Richard Davies, gweler Richard Davies (gwahaniaethu).'' Esgob a chyfieithydd oedd '''Richard Davies''' (?1501 - 1581), a aned y...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 21:48, 9 Ionawr 2007

Am enghreifftiau eraill o bobl o'r enw Richard Davies, gweler Richard Davies (gwahaniaethu).

Esgob a chyfieithydd oedd Richard Davies (?1501 - 1581), a aned yn y Gyffin, ger tref Conwy. Yn ystod ei yrfa egwlwysig bu'n esgob Llanelwy a Tyddewi. Fe'i cofir yn bennaf am ei waith ar y cyd â William Salesbury yn cyfieithu'r Testament Newydd i'r Gymraeg.

Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen lle daeth dan ddylanwad y diwygwyr Protestannaidd. Ar ôl treulio cyfnod mewn alltudiaeth yn ninas Frankfurt yn yr Almaen oherwydd ei ffydd ar ddiwedd teyrnasiad Mair I o'r Alban, dychwelodd i Gymru a chafodd ei apwyntio'n esgob Llanelwy ac yna yn 1561 yn esgob Tyddewi.

Gweithiai'n ddyfal gyda William Salesbury i berswadio senedd San Steffan i basio deddf i awdurdodi cyfieithu'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin i'r Gymraeg a phan gafwyd y ddeddf honno yn 1563 ymunodd â Salesbury yn ei blas yn Abergwili i gyfieithu'r Testament Newydd gyda fo. Richard Davies yw awdur yr Epistol at y Cembru ('Llythyr at y Cymry') a geir ar ddechrau Testament Newydd 1567; cafodd ddylanwad mawr ar hanesyddiaeth Cymru.

Roedd Richard Davies yn noddwr hael i feirdd a llenorion ei oes a gwnaeth gryn dipyn i gael gwared â'r llygredd oedd yn rhemp yn yr eglwys ar y pryd.

Llyfryddiaeth

  • D.R. Thomas, The Life and Work of Richard Davies and William Salesbury (Croesoswallt, 1902)