Gyffin

pentref yn sir Conwy

Pentref bychan ger Conwy yng Ngogledd Cymru yw Gyffin (mae'r enw llawn y Gyffin yn gywirach, ond mae pawb yn ei alw'n 'Gyffin').

Gyffin
Gyffin 01.JPG
Y Stryd Fawr, gyda Ffordd Llanrwst ar y dde
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2752°N 3.834109°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/auRobin Millar (Ceidwadwyr)

LleoliadGolygu

Lleolir Gyffin ar lôn y B5106 tua hanner milltir i'r de-orllewin o Gonwy, rhwng muriau'r dref honno a Bryn Eithin. Llifa Afon Gyffin ar hyd ochr ogleddol y pentref ar ei ffordd i aberu yn Afon Conwy, gan basio dan hen bont yng nghanol y pentref. Mae'r hen ffordd o Gonwy i Lanrwst yn rhedeg trwy'r pentref.

HanesGolygu

Er nad yw'n fawr o le heddiw a bod y rhan fwyaf o'r tai'n bur ddiweddar, mae gan Gyffin hanes hir. Safai treflan yn y Gyffin cyn i Edward I, brenin Lloegr, godi castell a thref gaerog Conwy. Roedd llawer o'r tir yn perthyn i Abaty Aberconwy.

Mae Eglwys Gyffin yn hynafol. Fe'i cysgegrir i Sant Bened heddiw ond tybir ei bod wedi'i chysegru i sant lleol yn wreiddiol.

Ganwyd y Dr Richard Davies, a gyfieithodd y Testament Newydd i'r Gymraeg, yn Gyffin yn y flwyddyn 1501. Plas y Person oedd ei gartref, ar safle ger y rheithordy presennol, ond does dim i'w weld o'r hen dŷ heddiw.

Pobl o GyffinGolygu