Llyfr Gweddi Gyffredin

llyfr (gwaith)

Y Llyfr Gweddi Gyffredin yw'r fersiwn Cymraeg o'r llyfr o weddïau ac adnodau a ddefnyddir yn amrywiol wasanaethau'r Eglwys Anglicanaidd, yn cynnwys Yr Eglwys yng Nghymru. Ymddangosodd y cyfieithiad cyntaf yn 1567 gan William Salesbury.

Y Llyfr Gweddi Gyffredin cyntaf yn Cymraeg

Cyfieithodd Salesbury y darnau litwrgïaidd o'r fersiwn Saesneg a geir yn The Book of Common Prayer, ond cyfieithodd y darnau ysgrythurol yn uniongyrchol o'r testunau Beiblaidd gwreiddiol. Roedd eisoes wedi cyfieithu rhan o'r Book of Common Prayer a'i chyhoeddi yn 1551 - gyda rhannau o'r ysgrythurau hefyd - yn y gyfrol Kynniver Llith a Ban.

Yn 1599 cafwyd argraffiad newydd gan yr Esgob William Morgan mewn Cymraeg llawer mwy dealladwy (diolch yn rhannol i ddiwygio orgraff unigryw Salesbury).

Cafwyd argraffiad newydd arall yn 1620, yn ffrwyth gwaith gan y Dr John Davies (Mallwyd) yn bennaf, er iddo gael ei gyhoeddi dan enw'r Esgob Richard Parry. Yn 1710 cyhoeddodd Ellis Wynne argraffiad newydd yn ei dro.

Erbyn heddiw mae'r hen Lyfr Gweddi Gyffredin wedi cael ei ddisodli gan fersiynau newydd, ond mae'n dal i gael ei ddefnyddio'n achlysurol.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Melville Richards a Glanmor Williams, Llyfr Gweddi Gyffredin 1567 (Caerdydd, 1965)