Damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Rhyddfrydiaeth: ychwanegu esboniad cryno o neo-ryddfrydiaeth
Tagiau: Golygiad cod 2017
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 2:
 
== Delfrydiaeth ==
{{prif|Delfrydiaeth (damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol)}}
Datblygodd faes cysylltiadau rhyngwladol mewn adlach i'r [[Rhyfel Byd Cyntaf]]. Un o ysbrydoliaethau'r ddisgyblaeth newydd oedd syniadaeth [[Woodrow Wilson]], Arlywydd yr Unol Daleithiau, am y byd rhyddfrydol a ddaw. Danfonodd [[David Davies, Barwn 1af Davies|David Davies]] a'i chwiorydd lythyr at [[Prifysgol Aberystwyth|Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth]], yn cynnig arian er cof am y myfyrwyr fu farw i sefydlu cadair er astudiaethau'r pynciau hynny – gwleidyddiaeth, y gyfraith, moeseg, economeg – sydd yn ceisio datrys gwrthdaro rhyngwladol. Sefydlwyd Cadair Woodrow Wilson ac [[Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth|Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol]] Aberystwyth ym 1919. Ysgrifennai'r hanesydd C. K. Webster, yr ail athro i gymryd y Gadair, bod y Rhyfel Mawr "wedi gwanhau seiliau'r drefn ryngwladol cymaint, ac wedi newid ein cysyniadau o gysylltiadau rhyngwladol mor ddidrugaredd, fel mae'n rhaid ailfwrw ein syniadau".