Damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol
Mae damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol yn ceisio gosod fframwaith cysyniadol er mwyn dadansoddi cysylltiadau rhyngwladol.
Math o gyfrwng | disgyblaeth academaidd |
---|---|
Math | damcaniaeth |
Yn cynnwys | neoclassical realism |
Delfrydiaeth
golyguDatblygodd faes cysylltiadau rhyngwladol mewn adlach i'r Rhyfel Byd Cyntaf. Un o ysbrydoliaethau'r ddisgyblaeth newydd oedd syniadaeth Woodrow Wilson, Arlywydd yr Unol Daleithiau, am y byd rhyddfrydol a ddaw. Danfonodd David Davies a'i chwiorydd lythyr at Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn cynnig arian er cof am y myfyrwyr fu farw i sefydlu cadair er astudiaethau'r pynciau hynny – gwleidyddiaeth, y gyfraith, moeseg, economeg – sydd yn ceisio datrys gwrthdaro rhyngwladol. Sefydlwyd Cadair Woodrow Wilson ac Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth ym 1919. Ysgrifennai'r hanesydd C. K. Webster, yr ail athro i gymryd y Gadair, bod y Rhyfel Mawr "wedi gwanhau seiliau'r drefn ryngwladol cymaint, ac wedi newid ein cysyniadau o gysylltiadau rhyngwladol mor ddidrugaredd, fel mae'n rhaid ailfwrw ein syniadau".
Yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd, rhagolwg gobeithiol o heddwch oedd y farn gyffredin gan ysgolheigion yr egin ddisgyblaeth, a gafodd y ddamcaniaeth hon ei alw'n ddiweddarach yn ddefrydiaeth. Dadleuai'r delfrydwyr o blaid diwygiadau a sefydliadau i feithrin cydweithrediad a chyfeillgarwch rhwng gwladwriaethau. Cynghrair y Cenhedloedd oedd yr ymdrech amlycaf rhwng y rhyfeloedd i ymgynnull gwladwriaethau mewn sefydliad rhyngwladol. Gosodant seiliau damcaniaethol i'r polisïau hyn drwy gysyniadau megis harmoni diddordebau a'r heddwch democrataidd. Osgoi rhyfel oedd y prif amcan polisi tramor yn ôl y delfrydwyr, ac o ganlyniad buont yn argymell anymyrraeth a dyhuddiad yn wyneb ymlediad tiriogaethol a thwf ffasgaeth yn Ewrop.
Realaeth
golyguWrth i gysylltiadau rhwng gwledydd Ewrop waethygu yn 1930au, trodd ambell ysgolhaig yn erbyn y farn gyffredin. Cafodd E. H. Carr, y pedwerydd i gymryd Cadair Woodrow Wilson yn Aberystwyth, ei siomi gan Gynghrair y Cenhedloedd. Yn ei lyfr The Twenty Years' Crisis (1939), a gyhoeddwyd ar wawr yr Ail Ryfel Byd, fe alwai'r delfrydwyr yn "iwtopwyr" a dadleuai taw Cytundeb Versailles oedd i feio am fethiant y drefn ryngwladol.
Wedi'r saith mlynedd o ryfela enbyd, cafodd y ddamcaniaeth ddelfryddol ei chwalu. Yn ogystal â The Twenty Years' Crisis, arloeswyd y ddamcaniaeth realaidd newydd gan Hans Morgenthau yn ei lyfr Politics Among Nations (1948). Siapwyd y ddamcaniaeth newydd gan astudiaethau ar hanes gwleidyddol a milwrol a chan yr amodau polisi newydd yn y byd wedi'r rhyfel. Cafodd yr harmoni diddordebau ei ddisgrifio fel rhith rhyddfrydol, a beirniadai'r ysgolheigion cynt am ddiystyru gwleidyddiaeth grym yng nghysylltiadau rhyngwladol. Er yr oedd y delfrydwyr yn ceisio cadw'r heddwch drwy ddyhuddiad, dadleuai'r realwyr taw methiant i gynnal y cydbwysedd grym oedd dyhuddiad ac felly yn gamgymeriad hirdymor.
Enillodd realaeth oruchafiaeth dros yr hen gonsensws rhyddfrydol, a chafodd ei syniadaeth ei atgyfnerthu gan sefyllfa'r Rhyfel Oer ac ymddangosiad y drefn ddeubegwn rhwng Unol Daleithiau America a'r Undeb Sofietaidd. Yn yr Unol Daleithiau yn enwedig, bu "Chwyldro Diplomyddol" gan ysgolheigion, cynghorwyr polisi, a diplomyddion oedd yn awyddus i lunio polisi tramor i adlewyrchu statws eu mamwlad fel uwchbwer. Ymhlith yr elît hwn oedd nifer o alltudion o Ganolbarth Ewrop: Arnold Wolfers, Klaus Knorr, Henry Kissinger, a Morgenthau ei hunan, rhai ohonynt yn Iddewon a wnaeth ffoi rhag y Natsïaidd. Pwysleisiant y traddodiadau gwleidyddol a chyfreithiol Americanaidd – ac eithrio'r elfen ynysol – mewn ymgais i bortreadu'r Unol Daleithiau yn rym moesol ar y llwyfan rhyngwladol.
Er yr oedd y mwyafrif yn cytuno bod angen meddylfryd realaidd, ymddangosodd sawl athrawiaeth polisi tramor yn cynnig gwahanol ffyrdd i roi'r fath ddamcaniaeth ar waith. Mewn achos effaith y dominos, dadleuodd rhai am gyfyngiant, hynny yw atal ymlediad comiwnyddiaeth, ac eraill am rollback, sef newid llywodraethau trwy rym milwrol neu weithredu cudd. O ran arfau niwclear, pwysleisiodd rhai athrawiaeth Cyd-ddinistr Sicr a chydfodolaeth heddychlon, tra yr oedd eraill yn mynnu dibynfentro ac agweddau pryfoclyd.
Neo-realaeth
golyguSail yr hyn a elwir yn neo-reolaeth neu realaeth adeileddol yw Theory of International Politics (1979) gan Kenneth Waltz. Ymwrthodai â'r traddodiad realaidd clasurol gan hepgor y cyfeiriadau at natur ddynol a'r tybiaethau metaffisegol sydd yn nodweddu gwaith Morgenthau. Ceisiodd Waltz ail-osod y ddamcaniaeth realaidd ar sylfaen wyddonol, ac wrth graidd hon oedd damcaniaeth systemig yn hytrach na rhydwythiaeth, gan ddadlau taw anllywodraeth y system ryngwladol sydd yn arwain at ddobarthiad grym. Testun sylw neo-reolaeth felly yw'r holl system o gysylltiadau rhyngwladol, ac nid "unedau" o gategoreiddio (er enghraifft, gwladwriaethau awtocrataidd a gwladwriaethau democrataidd).
Rhyddfrydiaeth
golyguMae'r ddamcaniaeth ryddfrydol, neu ryngwladoldeb rhyddfrydol, yn tynnu ar athroniaethau gwleidyddol ac astudiaethau economaidd y 18g a'r 19g. Yr athronydd John Locke oedd arloeswr rhyddfrydiaeth glasurol, a chyfranodd at syniadau'r cyfamod cymdeithasol, gweriniaetholdeb, ac hawliau naturiol. Amlinellir y gobaith am "heddwch parhaol" gan Immanuel Kant yn ei draethawd Zum ewigen Frieden (1795), sydd yn argymell cyfansoddiadau gweriniaethol a'r angen am gydsyniad y dinasyddion cyn i unrhyw wlad mynd i ryfel. Daw ysbrydoliaeth y rhyddfrydwyr mewn materion economaidd gan yr economegwyr gwleidyddol, yn bennaf Adam Smith a Richard Cobden. Yn ei gampwaith The Wealth of Nations (1776), disgrifia Smith y "llaw anweledig" sydd yn gyrru'r farchnad rydd, a dadleua nad yw bywyd rhyngwladol yn "sero-swm", hynny yw nid yw enillion un dyn, cwmni, neu wlad o reidrwydd yn achosi colled i ddyn, cwmni, neu wlad arall. Gwleidydd a dyn busnes oedd Cobden, a hyrwyddai masnach rydd a chysylltiadau gonest rhwng gwledydd y byd i hybu diddordebau cyffredin ac heddwch.
Nid yw pob damcaniaeth rhyddfrydol ar gysylltiadau rhyngwladol yn gytûn, ond maent i gyd yn hyderu ym mhosibiliadau "Cynnydd". Mae rhyddfrydwyr yn rhoi sylw i sawl haen o gymdeithas. Pwysleisir gallu'r unigolyn i wella'i wladwriaeth, drwy reswm a moesoldeb. Yn ôl y ddamcaniaeth ryddfrydol, mae'r wladwriaeth yn bodoli er budd yr unigolyn, i sicrhau ei hawliau a'i ryddid. Nid yw'r wladwriaeth ryddfrydol yn nod ynddi'i hun, ond yn fodd o ennill heddwch a democratiaeth, yr un syniad o'r heddwch democrataidd a arddelai gan y delfrydwyr. Yn ogystal, mae'r drefn ryngwladol yn agwedd hollbwysig o heddychu'r byd, drwy gynnig sefydliadau rhynglywodraethol ac uwchgenedlaethol a'r gyfraith ryngwladol i ddatrys anghydfodau rhwng gwladwriaethau ac i osgoi rhyfel.
Yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, bu cryn dipyn o orgyffwrdd rhwng syniadau'r delfrydwyr a'r hyn a elwir yn rhyngwladoldeb rhyddfrydol. Bu meddylfryd Woodrow Wilson, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn manylu ar y dadleuon rhyddfrydol drwy ei bolisi tramor a elwir yn Wilsoniaeth. Gwelsai Wilson yr hen ddiplomyddiaeth yn seiliedig ar Realpolitik awtocrataidd ac ymrysonau'r brenhiniaethau, a'r fath systemau oedd yn gyfrifol am achosi rhyfel. Dadleuai taw democratiaeth a chydsyniad y bobl oedd y ffordd ymlaen i sicrhau heddwch. Efe oedd prif arweinydd Cynghrair y Cenhedloedd, er i Senedd yr Unol Daleithiau wrthod i'r wlad honno ymuno â'r sefydliad. Nod Wilson oedd i'r Cynghrair magu trefn ddiplomyddol newydd o gyd-ddiogelwch, gan roi'r gorau i'r hen gynghreiriau milwrol a oedd yn sbarduno rasys arfau. Y brif broblem a wynebai'r Cynghrair oedd yr angen am aelodaeth gan bob un wladwriaeth ar draws y byd, er iddo wahardd ambell wlad gan gynnwys yr Almaen a'r Undeb Sofietaidd rhag ymuno. Hefyd bu'n dibynnu ar rym milwrol i rwystro ac i gosbi'r gwladwriaethau oedd yn aflonyddu'r drefn, ond methodd y Cynghrair i atal goresgyniad Abysinia gan yr Eidal yn 1935.
Neo-ryddfrydiaeth
golyguFfurfiwyd neo-ryddfrydiaeth neu sefydliadaeth neo-ryddfrydol yn y 1980au mewn ymateb i neo-realaeth. Gelwir y ddadl academaidd rhwng y neo-ryddfrydwyr a'r neo-realwyr yn y ddadl neo-neo, a serch hynny mae consensws ynglŷn â nifer o agweddau'r ddwy ddamcaniaeth hon ac mae ysgolheigion yn aml yn defnyddio'r naill a'r llall i ddehongli gwahanol bynciau. Er iddi ymsefydlu yn groes i neo-realaeth, yn bennaf drwy anghytuno â damcaniaeth Kenneth Waltz ynghylch cydweithio dan anllywodraeth yn y system ryngwladol, mabwysiadwyd dulliau a nifer o dybiaethau Waltz gan y neo-ryddfrydwyr. Dywed yn aml bod neo-ryddfrydiaeth yn canolbwyntio ar economi wleidyddol ryngwladol, gwleidyddiaeth amgylcheddol fyd-eang, ac hawliau dynol, tra bo neo-realaeth yn ymdrin yn bennaf â diogelwch cenedlaethol a rhyngwladol a materion milwrol.
Yr Ysgol Seisnig
golygu- Prif: Yr Ysgol Seisnig
Cychwynnodd damcaniaeth "yr Ysgol Seisnig" yn Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain (LSE) yn y 1950au, a daw'r enw o'r ffaith roedd nifer o'i phrif ffigurau, er nad oeddent i gyd yn Saeson, yn gweithio yn Lloegr, yn enwedig yr LSE a phrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.[1] Ei helfen nodweddiadol yw cysyniad y gymdeithas ryngwladol.
Tynna'r Ysgol Seisnig ar resymoliaeth, un o'r tri thraddodiad a ddisgrifir gan Martin Wight yn International Theory: The Three Traditions (1990), ynghyd â realaeth a chwyldroadaeth. Hugo Grotius yw'r meddyliwr a gydnabyddir yn lladmerydd y rhesymolwyr, a'i waith De Jure Belli ac Pacis (1625; "Deddf Heddwch a Rhyfel") oedd yn hanfodol wrth ddatblygu "cyfreithiau gwledydd" ar sail deddf natur. Gweledigaeth yr Ysgol Seisnig felly yw trefn gyfreithiol ryngwladol sydd yn cynnwys pob un wladwriaeth. Un o hoelion wyth yr Ysgol Seisnig yw Hedley Bull, a ddadansoddai anllywodraeth y system ryngwladol yn ei gampwaith The Anarchical Society (1977). Nod y gymdeithas ryngwladol yw adnabod diddordebau cyffredin a gwerthoedd cyfanfydol y ddynolryw, gosod rheolau ac egwyddorion y drefn ryngwladol, a chynnal sefydliadau rhyngwladol. Mae Bull yn ystyried rhyfel ei hun yn sefydliad rhyngwladol, wedi ei ffurfio i ddatrys gwahaniaethau grym ac i ennill diddordebau, ac yn dystoliaeth o'r gymdeithas ryngwladol.
Mae rhai wedi disgrifio'r Ysgol Seisnig yn gyfuniad o syniadau'r realwyr a'r rhyddfrydwyr. Yn debyg i realaeth, mae syniad y gymdeithas ryngwladol yn gosod y wladwriaeth yn brif weithredydd, ac yn cydnabod taw realiti grym sydd yn pennu diddordebau'r wlad. O ganlyniad, mae'r Ysgol Seisnig yn derbyn gwahaniaethau grym rhwng gwledydd, a phosibiliad rhyfel rhyngddynt. Mae'n rhannu sawl agwedd â'r ysgol ryddfrydol hefyd, yn bennaf y gobaith am leddfu'r anhrefn drwy'r gyfraith ryngwladol a diplomyddiaeth, a chyfuno rheolau er cyd-fodolaeth â'r cydbwysedd grym i greu drefn "gymdeithasol".
Marcsiaeth
golyguGwrthodir safbwyntiau'r realwyr a'r rhyddfrydwyr parthed gwrthdaro a chydweithrediad rhwng gwladwriaethau gan Farcswyr. Yn hytrach, canolbwyntir damcaniaeth Farcsaidd cysylltiadau rhyngwladol ar agweddau economaidd a materol, ar batrwm materoliaeth hanesyddol. Ystyrir y system fyd-eang yn gyfundrefn gyfalafol integreiddedig sydd yn tra-arglwyddiaethu ar bob agwedd o fywyd rhyngwladol, ac mae materion economaidd a dosbarth cymdeithasol yn trosgynnu popeth arall. Un o'r meddylwyr Marcsaidd a gafodd y mwyaf o ddylanwad ar y syniadaeth hon yw Antonio Gramsci, a bwysleisiai hegemoni yr ideoleg gyfalafol.
Adeileddaeth
golyguYmddangosai adeileddaeth yn namcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol yn y 1980au, ac enillodd ei haeddiant yn sgil diwedd y Rhyfel Oer.[4] Daeth i herio'r ddadl ddeuol rhwng neo-realaeth a neo-ryddfrydiaeth a oedd yn nodi'r maes yn niwedd yr 20g.[5] Mae damcaniaethau adeileddol yn ymwneud â'r effeithiau sydd gan syniadau ar y strwythur ryngwladol, sut mae'r strwythur honno yn pennu diddordebau gwladwriaethau, a'r moddion mae gwladwriaethau a gweithredyddion anwladwriaethol yn cynnal at atgynhyrchu'r strwythurau.[6] Prif elfen adeileddaeth ydy'r gred taw syniadau dylanwadol, gwerthoedd cyfunol, diwylliant, ac hunaniaethau cymdeithasol sydd yn siapio hynt a helynt, trefn ac anhrefn gwleidyddiaeth ryngwladol. Dadleuir taw peth gwneud yw'r realiti ryngwladol, a bennir gan strwythurau cymdeithasol a gwybyddol sydd yn rhoi ystyr i'r byd materol.[7] Ymddangosodd y ddamcaniaeth yn sgil dadleuon ynghylch y dull gwyddonol ym maes cysylltiadau rhyngwladol a'r rhan sydd gan damcaniaethau wrth greu a siapio grym gwleidyddol rhyngwladol.[8] Dywed Emanuel Adler bod adeileddaeth yn meddu'r tir canol rhwng damcaniaethau rhesymolaidd a dehongliadol.[7]
Ôl-strwythuriaeth
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Brown, C. ac Ainley, K. Understanding International Relations (Palgrave Macmillan, 2009), t. 50.
- ↑ Stephen M. Walt, Foreign Policy, No. 110, Special Edition: Frontiers of Knowledge. (Spring, 1998), p.41: "The end of the Cold War played an important role in legitimizing constructivist t realism and liberalism failed to anticipate this event and had trouble explaining it.
- ↑ Hay, Colin (2002) Political Analysis: A Critical Introduction, Basingstoke: Palgrave, P. 198
- ↑ [1]
- ↑ Hopf, Ted, The Promise of Constructivism in International Relations Theory, International Security, Vol. 23, No. 1 (Summer, 1998), p.171
- ↑ Michael Barnett, "Social Constructivism" in The Globalisation of World Politics, Baylis, Smith and Owens, 4th ed, OUP, p.162
- ↑ 7.0 7.1 Alder, Emmanuel, Seizing the middle ground, European Journal of International Relations, Vol .3, 1997, p.319
- ↑ K.M. Ferike, International Relations Theories:Discipline and Diversity, Dunne, Kurki and Smith, OUP, p.167
Darllen pellach
golygu- S. Burchill et al., Theories of International Relations (Basingstoke: Palgrave, 2009).
- T. Dunne, M. Kurki, a S. Smith (gol.), International Relations Theories: Discipline and Diversity (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2007).
- M. Griffiths, S. Roach a M. Solomon, Fifty Key Thinkers in International Relations (Llundain: Routledge, 2008).