Realaeth (damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tagiau: Golygiad cod 2017
B dol
Llinell 4:
Damcaniaeth [[gwladwriaeth-ganolog|wladwriaeth-ganolog]] yw hi a fynegir yn aml trwy [[model y peli biliards|fodel y peli biliards]], sy'n ystyried y wladwriaeth [[sofraniaeth|sofran]] fel yr unig [[gweithredydd (cysylltiadau rhyngwladol)|weithredydd]] o bwys, ac un sy'n ymateb yn gyson i ymddygiad gwladwriaethau eraill.<ref>Steans, Pettiford, a Diez, t. 49.</ref> Rhoddir pwyslais ar y cysyniad o [[Cysylltiadau rhyngwladol#Anllywodraeth|anllywodraeth]] o fewn y [[system ryngwladol]] a'r angen am [[cydbwysedd grym yng nghysylltiadau rhyngwladol|gydbwysedd grym]] i gadw'r [[trefn ryngwladol|drefn]].
 
Gwleidyddiaeth grym a thra-arglwyddiaeth y sofran oedd y drefn erstalwm, ac felly realaeth ydy'r ddamcaniaeth hynaf ym myd [[diplomyddiaeth]] a [[rhyfel]]. Safbwyntiau realaidd oedd yn gyrru [[polisi tramor|polisïau tramor]] a [[masnach ryngwladol|masnach]] a [[strategaeth filwrol]] ers cyfnod [[yr Henfyd]], a gwelir gwreiddiau'r traddodiad mewn gweithiau [[Thucydides]], [[Niccolò Machiavelli]], a [[Thomas Hobbes]]. Er hynny, prif ddamcaniaeth gyntaf y ddisgyblaeth academaidd a elwir cysylltiadau neu wleidyddiaeth ryngwladol oedd [[Delfrydiaeth (damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol#Delfrydiaeth)|delfrydiaeth]], a gofleidiwyd gan ysgolheigion a gwleidyddion wedi'r [[Rhyfel Byd Cyntaf]] mewn ymgais i sicrhau heddwch. Wrth i'r 20g mynd rhagddi, datblygodd realaeth "glasurol" ynghyd â [[rhyddfrydiaeth (damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol)|rhyngwladoldeb rhyddfrydol]], a'r ddwy ddamcaniaeth hon oedd ar naill ochr y "Ddadl Fawr" gyntaf yn nisgyblaeth cysylltiadau rhyngwladol. O ran y realwyr, roedd gwaith [[E. H. Carr]] a [[Hans Morgenthau]] yn allweddol.
 
== Hanes ==