Realaeth (damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol)

Damcaniaeth o fewn maes cysylltiadau rhyngwladol sy'n pwysleisio pwysigrwydd gwleidyddiaeth grym a natur gystadleuol y gyfundrefn ryngwladol yw realaeth. Mae realwyr yn gweld buddiannau'r wlad fel grym gyrru gwladwriaethau ar lwyfan y byd.

Damcaniaeth wladwriaeth-ganolog yw hi a fynegir yn aml trwy fodel y peli biliards, sy'n ystyried y wladwriaeth sofran fel yr unig weithredydd o bwys, ac un sy'n ymateb yn gyson i ymddygiad gwladwriaethau eraill.[1] Rhoddir pwyslais ar y cysyniad o anllywodraeth o fewn y system ryngwladol a'r angen am gydbwysedd grym i gadw'r drefn.

Gwleidyddiaeth grym a thra-arglwyddiaeth y sofran oedd y drefn erstalwm, ac felly realaeth ydy'r ddamcaniaeth hynaf ym myd diplomyddiaeth a rhyfel. Safbwyntiau realaidd oedd yn gyrru polisïau tramor a masnach a strategaeth filwrol ers cyfnod yr Henfyd, a gwelir gwreiddiau'r traddodiad mewn gweithiau Thucydides, Niccolò Machiavelli, a Thomas Hobbes. Er hynny, prif ddamcaniaeth gyntaf y ddisgyblaeth academaidd a elwir cysylltiadau neu wleidyddiaeth ryngwladol oedd delfrydiaeth, a gofleidiwyd gan ysgolheigion a gwleidyddion wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf mewn ymgais i sicrhau heddwch. Wrth i'r 20g mynd rhagddi, datblygodd realaeth "glasurol" ynghyd â rhyngwladoldeb rhyddfrydol, a'r ddwy ddamcaniaeth hon oedd ar naill ochr y "Ddadl Fawr" gyntaf yn nisgyblaeth cysylltiadau rhyngwladol. O ran y realwyr, roedd gwaith E. H. Carr a Hans Morgenthau yn allweddol.

Delfrydiaeth oedd yn arwain syniadaeth ynghylch cysylltiadau rhyngwladol ym mlynyddoedd cynnar y ddisgyblaeth. Wrth i gysylltiadau rhwng gwledydd Ewrop waethygu yn y 1930au, trodd ambell ysgolhaig yn erbyn y farn gyffredin. Cafodd E. H. Carr, y pedwerydd i gymryd Cadair Woodrow Wilson yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, ei siomi gan fethiannau Cynghrair y Cenhedloedd. Yn ei lyfr The Twenty Years' Crisis (1939), a gyhoeddwyd ar wawr yr Ail Ryfel Byd, fe alwai'r delfrydwyr yn "iwtopwyr" a dadleuai taw Cytundeb Versailles oedd i feio am fethiant y drefn ryngwladol.

Wedi'r saith mlynedd o ryfela enbyd, cafodd y ddamcaniaeth ddelfryddol ei chwalu. Yn ogystal â The Twenty Years' Crisis, arloeswyd y ddamcaniaeth realaidd newydd gan Hans Morgenthau yn ei lyfr Politics Among Nations (1948). Siapwyd y ddamcaniaeth newydd gan astudiaethau ar hanes gwleidyddol a milwrol a chan yr amodau polisi newydd yn y byd wedi'r rhyfel. Cafodd yr harmoni diddordebau ei ddisgrifio fel rhith rhyddfrydol, a beirniadai'r ysgolheigion cynt am ddiystyru gwleidyddiaeth grym yng nghysylltiadau rhyngwladol. Er yr oedd y delfrydwyr yn ceisio cadw'r heddwch drwy ddyhuddiad, dadleuai'r realwyr taw methiant i gynnal y cydbwysedd grym oedd dyhuddiad ac felly yn gamgymeriad hirdymor.

Enillodd realaeth oruchafiaeth dros yr hen gonsensws rhyddfrydol, a chafodd ei syniadaeth ei atgyfnerthu gan sefyllfa'r Rhyfel Oer ac ymddangosiad y drefn ddeubegwn rhwng Unol Daleithiau America a'r Undeb Sofietaidd. Yn yr Unol Daleithiau yn enwedig, bu "Chwyldro Diplomyddol" gan ysgolheigion, cynghorwyr polisi, a diplomyddion oedd yn awyddus i lunio polisi tramor i adlewyrchu statws eu mamwlad fel uwchbwer. Ymhlith yr elît hwn oedd nifer o alltudion o Ganolbarth Ewrop: Arnold Wolfers, Klaus Knorr, Henry Kissinger, a Morgenthau ei hunan, rhai ohonynt yn Iddewon a wnaeth ffoi rhag y Natsïaidd. Pwysleisiant y traddodiadau gwleidyddol a chyfreithiol Americanaidd – ac eithrio'r elfen ynysol – mewn ymgais i bortreadu'r Unol Daleithiau yn rym moesol ar y llwyfan rhyngwladol.

Er yr oedd y mwyafrif yn cytuno bod angen meddylfryd realaidd, ymddangosodd sawl athrawiaeth polisi tramor yn cynnig gwahanol ffyrdd i roi'r fath ddamcaniaeth ar waith. Mewn achos effaith y dominos, dadleuodd rhai am gyfyngiant, hynny yw atal ymlediad comiwnyddiaeth, ac eraill am rollback, sef newid llywodraethau trwy rym milwrol neu weithredu cudd. O ran arfau niwclear, pwysleisiodd rhai athrawiaeth Cyd-ddinistr Sicr a chydfodolaeth heddychlon, tra yr oedd eraill yn mynnu dibynfentro ac agweddau pryfoclyd.

Neo-realaeth

golygu

Sail yr hyn a elwir yn neo-reolaeth neu realaeth adeileddol yw Theory of International Politics (1979) gan Kenneth Waltz. Ymwrthodai â'r traddodiad realaidd clasurol gan hepgor y cyfeiriadau at natur ddynol a'r tybiaethau metaffisegol sydd yn nodweddu gwaith Morgenthau. Ceisiodd Waltz ail-osod y ddamcaniaeth realaidd ar sylfaen wyddonol, ac wrth graidd hon oedd damcaniaeth systemig yn hytrach na rhydwythiaeth, gan ddadlau taw anllywodraeth y system ryngwladol sydd yn arwain at ddobarthiad grym. Testun sylw neo-reolaeth felly yw'r holl system o gysylltiadau rhyngwladol, ac nid "unedau" o gategoreiddio (er enghraifft, gwladwriaethau awtocrataidd a gwladwriaethau democrataidd).

Gweler hefyd

golygu

Ffynonellau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Steans, Pettiford, a Diez, t. 49.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Steans, Jill; Pettiford, Lloyd; a Diez, Thomas (2005). Introduction to International Relations: Perspectives and Themes. Pearson

Darllen pellach

golygu
Llyfrau
  • W. David Clinton (gol.), The Realist Tradition and Contemporary International Relations (Baton Rouge: Louisiana State University Press, 2007).
  • J. Donnelly, Realism and International Relations (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2000).
  • A. J. H. Murray, Reconstructing Realism: Between Power Politics and Cosmopolitan Ethics (Caeredin: Keele University Press, 1997).
  • Michael C. Williams (gol.), The Realist Tradition and the Limits of International Relations (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2005).
Erthyglau mewn cyfnodolion academaidd
  • Ken Booth, "Security in Anarchy: Utopian Realism in Theory and Practice", International Affairs 67 (1991), tt. 327–45.
  • A. Wolfers, "The Pole of Power and the Pole of Indifference", World Politics 4 (1951), tt. 39–63.