Essais de Théodicée: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Llyfr athroniaeth yn [[Ffrangeg]], gydag atodiad [[Lladin]], gan yr Almaenwr [[Gottfried Wilhelm Leibniz]] yw '''''Essais de Théodicée''''', a gyhoeddwyd yn 1710, sydd yn ymdrin â [[problem drwg|phroblem drwg]] ac yn ymateb yn bennaf i ddadleuon [[Pierre Bayle]] ynghylch bodolaeth [[Duw]]. Enw llawn y gwaith yw ''Essais de Théodicée sur la bonté de Dieu, la liberté de l'homme et l'origine du mal'' ("Traethodau Theodiciaeth am ddaioni Duw, rhyddid dyn a tharddiad drwg"), a fe'i gelwir fel arfer yn ''Théodicée''.
 
Bathodd Leibniz y term ''théodicée'' drwy gyfuno'r geiriau [[iaith Groeg|Groeg]] ''theos'', sef "duw", a ''dikē'', sef "cyfiawnhâd", ac felly ystyr lythrennol y gair yw i gyfiawnhau duw, neu i amddiffyn priodoleddau duw.<ref>Stoeber M. "Leibniz’s Teleological Theodicy" yn ''Evil and the Mystics' God'' (Llundain: Palgrave Macmillan, 1992).</ref> Ysgrifennodd Leibniz ragair mewn drafft o'r gwaith sydd yn esbonio ystyr y teitl fel "[[cyfiawnder]] Duw". Ni chynhwysir yr eglurhad hwn yn y llyfr cyhoeddedig, ac felly bu nifer o ddarllenwyr yn tybio taw enw neu ffugenw'r awdur oedd "Théodicée".<ref name=BrownFox/> Bellach, defnyddir y gair [[theodiciaeth]] i ddisgrifio esboniadau diwinyddol neu athronyddol sydd yn ymdrechu i ateb y broblem drwg, hynny yw pam bod [[Duw]] yn caniatáu pethau drwg i ddigwydd.<ref>{{dyf GPC |gair=theodiciaeth |dyddiadcyrchiad=9 Chwefror 2020 }}</ref>
 
Mae'r rhan fwyaf o'r draethodau yn ymateb i athroniaeth grefyddol y Ffrancwr [[Pierre Bayle]]. Yn ôl Bayle, amhosib ydy cysoni cred mewn Duw daionus â bodolaeth drygioni yn y creu, a dadleuodd felly bod [[Cristnogaeth]] yn ffydd sydd yn groes i [[rhesymu|reswm]]. Cychwynna ''Théodicée'' gyda rhag-draethawd hir sydd yn dadlau bod ffydd yn uwch na rheswm, ond nid yn groes iddi. Rhennir gweddill y gyfrol yn dair rhan. Yn y rhan gyntaf, ymdrecha Leibniz i egluro natur a tharddiad drygioni, a chyflwynir amddiffyniad o gred mewn Duw sydd yn llawn daioni. Mae'n ymdrin â sawl pwnc diwinyddol ac athronyddol, gan gynnwys tarddiad yr [[enaid]], yr [[ewyllys rydd]], a rhagwybodaeth ddwyfol. Dilyna ymatebion manwl i ddadleuon Bayle – ar bwnc [[pechod]] yn y rhan gyntaf a drwg natur yn yr ail – ac mae'n debyg bod y rhain yn seiliedig ar waith a gychwynnwyd gan Leibniz sawl blwyddyn ynghynt ar anogaeth Sophia Charlotte, gwraig i [[Ffredrig I, brenin Prwsia]]. Cynhwysir crynodeb ffurfiol o ddadleuon yr awdur mewn atodiad yn yr iaith [[Lladin|Ladin]].<ref name=BrownFox/>