Sherlock Holmes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Gwybodlen person/Wicidata|fetchwikidata=ALL|onlysourced=no|suppressfields=dinasyddiaeth|nationality={{banergwlad|Lloegr}}|dateformat=dmy}} Mae '''Sherlo...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Fe wnaeth Holmes ei ymddangosiad cyntaf mewn print yn ''A Study in Scarlet'' ym 1887 . Daeth y cymeriad yn hynod boblogaidd wedi i'r gyfres gyntaf o straeon byrion cael eu cyhoeddi yn ''The Strand Magazine'', gan ddechrau gyda ''A Scandal in Bohemia'' ym 1891. Ymddangosodd straeon ychwanegol o hynny tan 1927. Cyhoeddwyd cyfanswm o [[Rhestr o lyfrau Sherlock Holmes|bedair nofel a 56 stori]] fer. Mae'r cyfan namyn un o'r storïau wedi eu gosod yn y cyfnod Fictoraidd neu Edwardaidd, rhwng tua 1880 a 1914. Adroddir y mwyafrif gan ffrind a chofiannydd Holmes, Dr John H. Watson, sydd fel arfer yn cynorthwyo Holmes yn ystod ei ymchwiliadau. Mae Watson, am gyfnod, yn rhannu tŷ gyda Holmes yn 221B Baker Street, Llundain, lle mae llawer o'r straeon yn cychwyn. <ref>{{Cite web|title=A Study in Scarlet Summary {{!}} GradeSaver|url=https://www.gradesaver.com/a-study-in-scarlet/study-guide/summary|website=www.gradesaver.com|access-date=2020-02-19|last=GradeSaver|date=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
Sherlock Holmes yw'r ditectif ffuglen fwyaf adnabyddus yn y byd. <ref>{{Cite web|title=Sherlock Holmes, the world's most famous literary detective|url=https://www.bl.uk/romantics-and-victorians/articles/arthur-conan-doyle-the-creator-of-sherlock-holmes-the-worlds-most-famous-literary-detective|website=The British Library|access-date=2020-02-19}}</ref> Erbyn y 1990au roedd eisoes dros 25,000 o addasiadau llwyfan, ffilmiau, cynyrchiadau teledu a chyhoeddiadau yn cynnwys y ditectif. <ref>{{Cite web|title=A star comes to Huddersfield!|url=http://www.bbc.co.uk/bradford/content/articles/2007/02/27/sherlock_holmes_huddersfield_feature.shtml|website=www.bbc.co.uk|access-date=2020-02-19|language=en-gb|last=BBC}}</ref> Mae Guinness World Records yn ei restru fel y cymeriad dynol llenyddol sydd wedi cael ei bortreadu fwyaf yn hanes ffilm a theledu. <ref>{{Cite web|title=Sherlock Holmes awarded title for most portrayed literary human character in film & TV|url=https://www.guinnessworldrecords.com/news/2012/5/sherlock-holmes-awarded-title-for-most-portrayed-literary-human-character-in-film-tv-41743/|website=Guinness World Records|date=2012-05-14|access-date=2020-02-19|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> Mae'r cymeriad a'r straeon wedi cael effaith ddwys a pharhaol ar ysgrifennu dirgelwch a diwylliant poblogaidd yn ei gyfanrwydd. Mae'r straeon gwreiddiol ynghyd â miloedd a ysgrifennwyd gan awduron heblaw Conan Doyle wedi'u haddasu yn ddramâu llwyfan a radio, teledu, ffilmiau, gemau fideo, a chyfryngau eraill am dros gan mlynedd.
 
== Bywgraffiad ==