Agricola: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 200px|bawd|Cerflun o '''Agricola''' a godwyd yn [[Caerfaddon|Nghaerfaddon yn 1894]] Milwr a gwladweinydd o [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Ru...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:36, 15 Ionawr 2007

Milwr a gwladweinydd o Rufeiniad oedd Gnaeus Julius Agricola neu Agricola (40 - 93 O.C.), a aned yn nhref Forum Julii yn nhalaith Gallia Narbonensis (Fréjus heddiw, ym Mhrofens, de Ffrainc).

Cerflun o Agricola a godwyd yn Nghaerfaddon yn 1894

Gwasanaethodd ym Mhrydain, Asia ac Aquitania gan ennill bri iddo'i hun. Cafodd ei ethol yn gonswl yn 77 O.C. a dychwelodd i Brydain fel llywodraethwr ar y dalaith newydd yn 77 neu 78. Agricola oedd yn bennaf cyfrifol am osod awdurdod Rhufain ar y llwythau Celtaidd ym Mhrydain a oedd yn dal i wrthsefyll y trefedigaethwyr Rhufeinig. Yn 80 ac 81 ymestynnodd reolaeth Rhufain i dde'r Alban a gorchfygodd byddin Calcagus ym Mrwydr Mons Graupius. Ar ôl y fuddugoliaeth honno hwyliodd â'i lynges fechan oddi amgylch arfordir gogleddol Prydain, gan brofi am y tro cyntaf ei bod yn ynys. Ond enynnodd llwyddiant Agricola genfigen Domitianus a chafodd ei alw yn ôl i Rufain yn 84.

Ysgrifenodd ei fab-yng-nghyfraith Tacitus fywgraffiad canmoliaethus ar Agricola, y De vita Iulii Agricolae (neu'r Agricola). Dyma brif ffynhonnell ein gwybodaeth amdano, ynghyd â'r Annales (llyfr arall gan Tacitus).

Llyfryddiaeth

  • H. Mattingly (cyf.), Tacitus: On Britain and Germany (Llundain, 1946 ac wedyn). Ceir yr Agricola yn rhan gyntaf y llyfr, a bywgraffiad.