Agor y brif ddewislen

Roedd Talaith Rufeinig Asia yn uned wleidyddol a greuwyd ar ddiwedd y Weriniaeth Rufeinig. Roedd yn dalaith Seneddol a lywodraethid gan proconswl, trefn a arosodd yn sgîl ad-drefnu yr Ymerodraeth Rufeinig yn 211.

Bu rhaid i Antiochus III o'r Aifft ildio Asia ar ôl i'r Rhufeiniaid drechu ei fyddin ym mrwydr Magnesia, yn 190 CC. Ar ôl Cytundeb Apamea (188 CC), rhoddwyd yr ardal gyfan i Rufain dan frenin nawdd yn Mhergamon.

Yn 133 CC, rhoddodd Attalus III o Bergamom, oedd heb etifedd, ei deyrnas i Rufain. Ffurfiwyd y dalaith Asia Proconsularis, yn cynnwys hen ardaloedd Groegaidd Mysia, Lydia, Caria, a Phrygia.

Roedd rhai o ddinasoedd Asia, fel Ephesus a Pergamon, ymhlith y dinasoedd pwysicaf a chyfoethocaf yn yr ymerodraeth. Ymhlith y rhai fu'n dal y swydd o broconswl Asia, roedd yr hanesydd Tacitus (110-113).

Ar ôl 326, pan symudodd yr ymerodr Cystennin Mawr y brifddinas i Byzantiwm, arosai'r dalaith yn ganolfan i ddiwylliant Rhufeinig a Helenistaidd yn y dwyrain am ganrifoedd. Arosodd yn rhan o'r Ymerodraeth Fysantaidd hyd y 15g.

Cysylltiad allanolGolygu