Thomas Carte: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cats
Tagiau: Golygiad cod 2017
Dim crynodeb golygu
Llinell 9:
Ganed Carte yn [[Clifton upon Dunsmore]], ger [[Rugby]] yn [[Swydd Warwick]] rywbryd yn 1686. Cafodd ei addysg brifysgol yng [[Coleg y Trwyn Pres, Rhydychen|Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen]] (1702) a [[Coleg y Brenin, Caergrawnt|Choleg y Brenin, Caergrawnt]], lle graddiodd gyda MA yn 1706. Roedd yn deyrngar i achos y Stuartiaid a bu rhaid iddo ffoi i [[Ffrainc]] ar ôl iddo gael ei gyhuddo o [[teyrnfradwriaeth|deyrnfradwriaeth]] yn 1722.
 
Cododd hanesyn Syr [[John Wynn o Wydir]] am [[cyflafan y beirdd|gyflafan y beirdd]] a'i gyhoeddi yn ei ''General History of England''. Cydiodd yr hanesyn yn nychymyg beirdd ac artistiaid [[Rhamantiaeth|Rhamantaidd]] dros Glawdd Offa. Daeth hanes y '"gyflafan'" yn enwog diolch i'r gerdd ''[[The Bard (cerdd Thomas Gray)|The Bard]]'' gan [[Thomas Gray]] lle mae'r bardd olaf yn melltithio Edward I ac yn proffwydo dinistr ar ei ddisgynyddion. Cafodd Gray yr hanesyn o lyfr Carte yn 1755 ac ysgrifenwyd y gerdd ganddo yn 1757 ar ôl clywed [[Edward Jones (Bardd y Brenin)]] yn canu alawon Cymreig ar ei delyn.<ref>Prys Morgan, ''The Eighteenth Century Renaissance'' (Abertawe, 1981), tud. 120.</ref>
 
==Llyfrau Carte==
* ''Life of James Duke of Ormonde'' (3 cyfrol, 1735–17361735–36; argraffiad newydd, Rhydychen 1851)
* ''A General Account of the Necessary Materials for a History of England'' (1738)
* ''History of the Revolutions of Portugal, with letters of Sir Robert Southwell during his embassy there'' (Llundain, 1740)