William Owen (Prysgol): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gwybodlen wd |
|||
Llinell 1:
{{
Roedd '''William Owen (Prysgol)''' ([[12 Rhagfyr]], [[1813]] –[[20 Gorffennaf]], [[1893]]) yn gerddor yn arweinydd côr ac yn awdur emyn donnau Cymreig.
==Cefndir==
Ganwyd Prysgol yn Lôn Popty, [[Bangor]] yn blentyn i William Owen, chwarelwr ac Elen Williams ei wraig. Symudodd ei rieni yn fuan wedi hynny i'r Tŷ Hen ger chwarel Cae Braich y Cefn, [[Bethesda]], lle y gweithiai ei dad. Wedi byw yno rai blynyddoedd cafodd y teulu ei droi allan o'r tŷ i fyny, er mwyn ei osod i un o stiwardiaid y chwarel. Wedi hynny symudodd y teulu i dyddyn bychan yn ardal Bangor o'r enw Cilmelyn.
==Gyrfa==
Pan oedd yn ddeng mlwydd oed dechreuodd Prysgol gweithio gyda'i dad yn chwarel Cae Braich y Cefn. Gan fod y chwarel yn rhy bell o Fangor i deithio yno pob dydd dechreuodd lletyo ym Mraich y Cefn yn ystod yr wythnos wedi i'r teulu symud i Gilmelyn. Dechreuodd derbyn gwersi cerddorol gan Robert Williams (Cae Aseth) a William Roberts Tŷ'n y Maes, Bethesda. Bu'n cynnal cyfarfodydd canu yng Nghapel y Graig Bangor pan byddai adref bwrw'r Sul a bu'n arwain côr meibion bychan ymysg ei gyd chwarelwyr yn ystod yr wythnos gwaith.
Roedd Prysgol yn aelod brwdfrydig o'r achos dirwest (pobl oedd yn gwrthwynebu yfed diodydd alcoholig) a dechreuodd cyfansoddi tonau ar gyfer emynau dirwestol pan oedd yn 18 oed. Yn ddiweddarach yn ei fywyd bu'n arwain corau dirwestol mawr ac yn arwain cymanfaoedd dirwest. Ymddangosodd ei emyn dôn cyntaf i'w cyhoeddi, o'r enw ''Langport'', yng nghylchgrawn Y Drysorfa ym mis Mai 1841.
Tonau mwyaf adnabyddus Prysgol yw ''Prysgol'' sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer emyn [[Ann Griffiths]] ''O am bara i uchel yfed'' (Caneuon Ffydd tôn 590; emyn 723) a ''[[Bryn Calfaria (emyn-dôn)|Bryn Calfaria]]'' sy'n cael ei ddefnyddio fel y dôn arferol ar gyfer yr emyn [[William Williams (Pantycelyn)|Pantycelyn]] ''Gwaed dy Groes sy'n codi i fyny'' (Caneuon Ffydd tôn 416; emyn 494).
==Teulu==
Ym 1844 priododd Margaret Lloyd merch Humphrey Lloyd, fferm y Prysgol, [[Caeathro]], [[Caernarfon]] <ref>[https://coflein.gov.uk/cy/site/16781/details/prysgol Coflein Cadw Cymru – Prysgol]
Wedi priodi daeth Prysgol yn flaenor ac yn godwr canu yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghaeathro.
==Marwolaeth==
Bu farw yn ei gartref yn 79 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent anghydffurfiol Caeathro. I nodi canmlwyddiant ei eni dechreuwyd casgliad cenedlaethol cyhoeddus i roi cofadail ar ei fedd. Dadorchuddiwyd y cofadail ym mis Mai 1914.
==Oriel==
Llinell 32:
{{cyfeiriadau}}
{{DEFAULTSORT:Owen, William}}▼
{{Rheoli awdurdod}}
▲{{DEFAULTSORT:Owen, William}}
[[Categori:Genedigaethau 1813]]
[[Categori:Marwolaethau 1893]]
|