Angharad Llwyd

hynafieithydd Cymreig

Hynafiaethydd Cymreig oedd Angharad Llwyd (15 Ebrill 178016 Hydref 1866) ac awdur arobryn Cymreig.

Angharad Llwyd
Portread a wnaed tua 1860 o Angharad Llwyd – hynafieithydd Cymreig.
Ganwyd15 Ebrill 1780 Edit this on Wikidata
Caerwys Edit this on Wikidata
Bu farw16 Hydref 1866 Edit this on Wikidata
Y Rhyl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethhynafiaethydd Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yng Nghaerwys yn Sir y Fflint, yn ferch i'r Parch John Lloyd, rheithor Caerwys, a oedd hefyd yn hynafieithydd. Enillodd ei hysgrif ar Gatalog o Lawysgrifau Cymreig ayb yng Ngogledd Cymru yr ail wobr yn Eisteddfod Genedlaethol 1824.[1] Cyhoeddodd hefyd Genealogy and Antiquities of Wales a The Castles of Flintshire. Roedd yn aelod o Gymdeithas Cymmrodorion Llundain a golygodd a chyhoeddodd argraffiad o History of the Gwydir Family (Syr John Wynn). Efallai mai ei phrif waith cyhoeddedig oedd History of the Island of Mona a dderbyniodd y brif wobr yn eisteddfod Biwmares yn 1832.

Treuliodd lawer o'i hoes yn copïo llawysgrifau mewn llyfrgelloedd preifat trwy'r wlad ee casgliadau Kinmel a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Bu farw ar 16 Hydref 1866 yn "Ty'n y Rhyl".

Llyfryddiaeth golygu

  • Notable Welshmen (1700–1900), 1908
  • Dictionary of Welsh Biography 27 cyf., N.L.W. MSS. 9251–77
  • T. Pennant, A Tour (Tours) in [North] Wales, 1773. 1778, etc, I, vi-vii
  • Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1828, 36-58
  • NLW MSS 781, 1551 - 1616
  • Archaeologia Cambrensis, 1867, 69
  • Cofrestr plwyf Caerwys
  • Mary Ellis, Flintshire Historical Society publications, Cyf 26 a 27.

Cyfeiriadau golygu

  1.  Llwyd, Angharad - Y Bywgraffiadur Cymreig. Adalwyd ar 4 Mawrth 2016.