Y Rhyl

tref a chymuned yn Sir Ddinbych

Tref glan môr a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Y Rhyl. Roedd cynt yng Nghlwyd, a chyn hynny yn Sir y Fflint. Fe'i lleolir i'r dwyrain o'r Foryd, aber Afon Clwyd. Ar hyd yr arfordir i'r gorllewin mae Bae Cinmel a 4 milltir i'r dwyrain mae Prestatyn. 2 filltir i'r de mae tref Rhuddlan. Ei phoblogaeth yw 24,889 (Cyfrifiad 2001).

Y Rhyl
Mathtref, cyrchfan lan môr, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth25,149 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3212°N 3.4802°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000173 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ015815 Edit this on Wikidata
Cod postLL18 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auGareth Davies (Ceidwadwyr)
AS/auJames Davies (Ceidwadwyr)
Map

Mae gan y Rhyl un o'r traethau gorau yn y gogledd[angen ffynhonnell] sy'n denu ymwelwyr lu yn yr haf i ymdrochi a mwynhau'r "Tywod Euraidd". Mae'r Prom llydan yn enwog am ei barlwrs gemau, neuaddau bingo a siopau cofroddion rhad. Yr atyniad mawr heddiw yw Canolfan yr Haul a'i thŵr trawiadol. Ar ben gorllewinol y prom ceir y ffair hwyl a'i holwynion a big dipper. Gerllaw mae'r Llyn Morwrol (Marine Lake) a'r Trên Bach i blant sy'n rhedeg oddi amgylch iddo. Yn harbwr Y Foryd lle rhed Afon Clwyd i'r môr ceir nifer o gychod pysgota a hamdden a gorsaf y bad achub. Y brif ardal siopio yw'r Stryd Fawr, sy'n ymestyn rhwng y prom a'r orsaf drenau.

Hanes golygu

 
Y Rhyl o'r Tŵr Awyr ar y prom
 
Y Trên Bach a'r Ffair Hwyl ar bromenâd Y Rhyl
 
Arcêd peiriannau hap-chwarae ar y prom

Cynhanes golygu

Darganfuwyd matog wedi'i wneud o gorn carw yn nechrau'r 20g yn ystod archwiliad o olion cyn-hanes a ellir ei weld pan fo'r môr ar drai; mae dyddio carbon wedi ei osod yn y 5g CC.[1] Cyfeirir at y lleoliad fel 'Splash Point', nid nepell o'r 'Heulfan' modern[2] a gellir gweld hen foncyffion fforest a arferai dyfu yno rhwng 6,000 a 10,000 o flynyddoedd yn ôl.

Tarddiad a thwf y dref golygu

Does dim sôn am y Rhyl yn llyfr Thomas Pennant yn 1778 nac ychwaith gan William Bingley yn 1798.[3] Ond mae sawl dogfen yn cyfeirio at dŷ o'r enw 'Hill-house' neu 'hillouse' a 'Hullhouse' (o'r gair 'hill' am allt) - a hynny ynmor bell yn ôl â 1351. Mae'n bosib, felly, i'r dref gael ei ho'r tŷ hwn. Gan nad oes yr un gallt i'w weld am rai milltiroedd, ac mae'n bosib y cyfeirir at 'motte' rhyw gaer a oedd yn arfer amddiffyn aber afon Clwyd. Cyfeirir at ddyn o'r enw 'Gronou del Hull' yn 1303 er enghraifft.[4] Dywed Lewis yn ei 'Lewis's Topographical Dictionary' (argraffwyd yn 1833), '...previously to the year 1820, (Rhyl) consisted only of a few scattered dwellings.'[3] Yn ei lyfr 'Wanderings and excursions in North Wales' gan Thomas Roscoe (1791-1871) a gyhoeddwyd yn 1836[5] dywed yr awdur: The place owes it's prosperity to its contiguity to Liverpool, from which town it is only distant three or four hours sail, - to its being the outlet of the Vale of Clwyd, and the northern point from which travellers start on their excursions to the beautiful scenery of Wales, and to its fine and extensive beach...

Yn 1801 roedd y boblogaeth yn 289 o drigolion a llai yn 1811: 252 o drigolion.[6]

Roedd y Rhyl yn dechrau datblygu fel canolfan gwyliau glan môr ac roedd y llongau o Lerpwl yn angori ger traeth y Rhyl a byddai pysgotwyr lleol yn cludo'r teithwyr i'r lan. Erbyn 1831 roedd gwasanaeth llongau ager rheolaidd yn bodoli ac felly codwyd pier bychan yn y Foryd. Hwyliai 'gwasanaeth paced' rhwng Lerpwl a Rhuddlan. Byddai nwyddau fel grawn yn cael eu cludo hefyd, yn ogystal â theithwyr. Arhosodd y Foryd y brif ffordd i deithwyr o ogledd-orllewin Lloegr gyrraedd y Rhyl tan 1848 pan agorodd gorsaf reilffordd y Rhyl. Cofnodir i dros 30 o longau hwyliau gael eu hadeiladu yn y Foryd yn hanner cyntaf y 19g.[7]

Fel yn achos nifer o drefi glan môr eraill yng Nghymru, tyfodd y Rhyl yn gyflym yn y 19g; gwestai preifat (megis y Royal Hotel a'r Mostyn Arms Hotel, y New Inn a'r Manchester Arms, y Belvoir a'r Family Hotel) a thai gwely a brecwast yw llawer o'r tai a godwyd yno erbyn heddiw. Ceir ambell enghraifft o bensaernïaeth briciau coch Fictoraidd o'r cyfnod hwnnw hefyd, er enghraifft Neuadd Frenhinol y Blodau, sy'n farchnad dan do heddiw, a Neuadd y Dref.

 
Pont y Ddraig
 
Harbwr y Rhyl

Hanes diweddar golygu

Mae'r Rhyl wedi dioddef dwy broblem fawr yn y degawdau diwethaf, sef methu cystadlu yn y farchnad gwyliau poblogaidd a'r mewnlifiad o bobl ddi-waith o drefi gogledd-orllewin Lloegr[angen ffynhonnell]. Mae nifer o'r hen westai a'r tai teras yn fflatiau rhad erbyn hyn ac mae'r dref yn dioddef problemau cymdeithasol o'u herwydd.

 
Y Foryd: aber Afon Clwyd

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Rhyl (pob oed) (25,149)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Rhyl) (3,435)
  
14.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Rhyl) (13768)
  
54.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Y Rhyl) (4,849)
  
44.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Addysg golygu

Uwchradd:

Cynradd:

Enwogion golygu

Cludiant golygu

Mae gorsaf drenau Rhyl ar orsaf Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae nifer fawr o fysus lleol yn rhedeg yn y dref ei hun ac i'r trefi cyfagos.

Eisteddfod Genedlaethol golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Y Rhyl ym 1892, 1904, 1953 a 1985.

 
Machlud o'r Rhyl

Cyfeiriadau golygu

  1. 'The Archaeology of Clwyd' ganGyngor Sir Clwyd, 1991 tudalen 53.
  2. "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-11. Cyrchwyd 2009-03-20.
  3. 3.0 3.1 Handbook for the Vale of Clwyd, Wiiliam Davies; argraffwyd gan Isaac Clarke, 1856. tud 21.
  4. Dictionary of Place-names of Wales gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Gwasg Gomer 192007
  5. 'Wanderings and excursions in North Wales' gan Thomas Roscoe argraffwyd yn Llundain gan C. Tilt and Simpkin and Co.
  6. Gweler 'Handbook for the Vale of Clwyd' gan Wiiliam Davies; argraffwyd gan Isaac Clarke yn 1856. Tudalen 23.
  7. Jim Roberts, North Wales Transport (Sutton, 1998), tud. 95.
  8. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  10. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.