Ardal Wychavon

ardal an-fetropolitan yn Swydd Gaerwrangon

Ardal an-fetropolitan yn Swydd Gaerwrangon, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Ardal Wychavon.

Ardal Wychavon
Mathardal an-fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Gaerwrangon
PrifddinasPershore Edit this on Wikidata
Poblogaeth121,500 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaerwrangon
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd663.5418 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.114°N 2.081°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE07000238 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Wychavon District Council Edit this on Wikidata
Map

Mae gan yr ardal arwynebedd o 663.5 km², gyda 127,340 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'r ardal yn ymestyn o gornel dde-ddwyreiniol Swydd Gaerwrangon i'r gogledd a'r gorllewin. Mae'n ffinio â phum ardal arall Swydd Gaerwrangon, yn ogystal â siroedd Swydd Gaerloyw a Swydd Warwick.

Ardal Wychavon yn Swydd Gaerwrangon

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Cyfunodd nifer o hen awdurdodau lleol, sef bwrdeistrefi Droitwich ac Evesham ynghyd ag Ardal Wledig Evesham a'r rhan fwyaf o Ardal Wledig Droitwich a'r rhan fwyaf o Ardal Wledig Pershore.

Mae enw'r ardal, a ddyfeisiwyd ym 1973, yn cynnwys dwy elfen. Mae "Wych" yn cyfeirio at Hwicce, teyrnas Sacsonaidd hynafol, ac mae "Avon" yn cyferio at Afon Avon.

Pencadlys yr awdurdod yw Pershore. Droitwich Spa ac Evesham yw trefi eraill yr ardal.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 15 Mawrth 2020