O 1977 hyd 2011, tarian werdd ar frest Hebog Quraysh, arwydd llwyth Muhammad, oedd arfbais Libia. Dalia'r hebog yn ei grafangau sgrôl yn dwyn enw llawn y wladwriaeth.[1] Yn sgil dymchwel llywodraeth Muammar al-Gaddafi, nid oes arfbais swyddogol ond defnyddir seren a chilgant ar basbort Libia.

Cyfeiriadau golygu

  1. Siobhán Ryan et al. Complete Flags of the World (Llundain: Dorling Kindersley, 2002), t. 61.