Bugeilio'r Gwenith Gwyn

Cân werin draddodiadol yw Bugeilio'r Gwenith Gwyn. Casglwyd y gân o'r traddodiad llafar yn y 1830au ac fe'i cyhoeddwyd gyntaf yn 1844 gan y cerddor Cymreig a gwerinwr Maria Jane Williams yn ei chasgliad Ancient National Airs of Gwent and Morganwg.[1] Mae'r gân wedi'i chysylltu, braidd yn amwys, â'r stori boblogaidd am aeres gyfoethog, Ann Maddocks (1704-27) — yr hyn a elwir 'Morwyn Cefn Ydfa', o blwyf Llangynwyd yng nghanolbarth Morgannwg, a'r bardd braidd yn niwlog, Wil Hopcyn (1700-41), y priodolir y gân iddo. Fodd bynnag, nid yw'r gân ei hun yn cyfeirio'n benodol at y chwedl, ac mae'r fersiwn a gyflwynir yma mewn gwirionedd yn cyfeirio at "Gwen" yn hytrach nag "Ann".

Bugeilio'r Gwenith Gwyn
Enghraifft o'r canlynolgwaith neu gyfansodiad cerddorol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn ôl Dr Wyn Evans, mae hanes y gân yn gymhleth. Tybia mai cymysgedd o benillion gwerin o nifer o ffynonellau ydyw, wedi'i 'wella' gan Taliesin Williams (1787-1847) a'i ymestyn gyda phennill a gyfansoddwyd gan ei dad, 'Iolo Morganwg' (Edward Williams, 1747-1826) "yr athrylith ystyfnig hwnnw, a ailysgrifennodd — dan ddylanwad cariad ei sir Forgannwg, heb sôn am laudanum — hanes ysgolheictod a llenyddiaeth Gymraeg gyda Morgannwg i raddau helaeth iawn."


Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth.

Geiriau golygu

Mae sawl fersiwn o'r geiriau gyda mân amrywiadau yn y geiriau ac adnodau ychwanegol. Mae fersiwn modern yn:[2]

Mi sydd fachgen ifanc ffôl
Yn byw yn ôl fy ffansi,
Myfi'n bugeilio'r gwenith gwyn,
Ac arall yn ei fedi.
Pam na ddeui ar fy ôl,
Ryw ddydd ar ôl ei gilydd?
Gwaith 'rwy'n dy weld, y feinir fach,
Yn lanach, lanach beunydd.

Glanach, glanach wyt bob dydd,
Neu fi sy'am fydd yn ffolach;
Er mwyn y Gŵr a wnaeth dy wedd
Dod im' drugaredd bellach.
Cwnn dy ben, gwel acw draw,
Rho imi'th law wen dirion;
Gwaith yn dy fynwes bert ei thro
Mae allwedd clo fy nghalon.

Codais heddiw gyda'r wawr,
Gan frysio'n fawr fy lludded,
Fel cawn gusanu llun dy droed
Fu 'rhyd y coed yn cerdded;
Cwn fy mhen o'r galar maith
 serchus iaith gwarineb,
Gwaith mwy na'r byd i'r mab a'th gâr
Yw golwg ar dy wyneb.

Tra fo dŵr y môr yn hallt,
A thra fo 'ngwallt yn tyfu,
A thra fo calon dan fy mron
Mi fyddai'n ffyddlon iti;
Dywed imi'r gwir heb gêl,
A rho dan sêl d'atebion,
P'un ai myfi ai arall, Gwen,
Sydd orau gan dy galon.

Mae amrywiadau cyffredin yn cynnwys defnyddio'r ieuanc mwy llenyddol yn lle ifanc yn y pennill cyntaf (fel yn y clip uchod). Hefyd, defnyddir gwna yn aml yn lle dod yn yr ail bennill, a chaiff y treiglad meddal o bo i fo ei hepgor yn aml yn dilyn tra yn y pedwerydd pennill.[3]

Y diwn golygu

Fersiwn cyntaf cyhoeddwyd golygu

 

Fersiwn modern golygu

Fersiwn modern o'r gan:

 

Cyfeiriadau golygu

  1. Nodyn:Dyfynnu gwe
  2. Hywel, John, gol. (1990). Famous songs of Wales : Caneuon enwog Cymru 1 (arg. 3rd). Caernarfon: Gwynn. tt. 28–29. ISBN 0-900426-60-8. (Lannach a glannach wedi eu cywirio i lanach a glanach, im'th i imi'th, ac yn y llinell ola gen i gan.)
  3. Edwards, Meinir, gol. (2012). 100 o Ganeuon Gwerin. Talybont: Lolfa. t. 21. ISBN 978-1-84771-599-9.