Taliesin Williams
Bardd a golygydd o Gymru oedd Taliesin Williams neu Taliesin ab Iolo (7 neu 9 Chwefror 1787 – 16 Chwefror 1847). Roedd yn fab i Iolo Morganwg, y llenor a'r hynafiaethydd. Cafodd ei enwi ar ôl y bardd cynnar, Taliesin.
Taliesin Williams | |
---|---|
Ffugenw | Ab Iolo |
Ganwyd | 9 Gorffennaf 1787, 7 Gorffennaf 1787 |
Bedyddiwyd | 16 Medi 1787 |
Bu farw | 16 Chwefror 1847 Merthyr Tudful |
Man preswyl | Merthyr Tudful |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, llyfrwerthwr, ysgolfeistr, saer maen |
Tad | Iolo Morganwg |
Plant | Elizabeth Williams, Edward Williams |
Bywyd
golyguYn ôl traddodiad, ganed Taliesin yng ngharchardy Caerdydd lle bu ei dad yn garcharor am gyfnod oherwydd ei fod yn fethdalwr. Ar ôl cael addysg elfennol yn y Bont-faen, Morgannwg, gweithiodd gyda'i dad fel saer maen yn y sir honno. Mae'n debyg iddo gael ei hyfforddi gan ei dad fel bardd. Trodd yn ysgolfeistr a threuliodd 21 mlynedd olaf ei oes yn ysgolfeistr ym Merthyr Tudful. Un o'i ddisgyblion oedd yr arlunydd Penry Williams (1800-1885), a chredir y cafodd ddylanwad arno i ddewis gyrfa fel artist.
Gweithgareddau llenyddol
golyguHynafiaethau
golyguBu gan Daliesin ran flaenllaw yng ngweithgareddau llenyddol a diwylliannol De Cymru yn hanner cyntaf y 19g. Golygodd yr Iolo Manuscripts, sy'n cynnwys rhai o ffugiadau hynafiaethol enwocaf ei dad, ar ran y Welsh Manuscripts Society (cyhoeddwyd 1848). Ymddengys na rannodd ei dad ei gyfrinach ag ef a chredai Taliesin yn ddiffuant fod y ffugiadau hynny a llawer o rai eraill gan Iolo yn destunau Cymraeg Canol dilys. Trwy gydol ei oes hyrwyddai syniadau Iolo am hynafiaeth Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, Coelbren y Beirdd, a ffugiadau eraill, trwy ysgrifennu traethodau ac erthyglau ac annerch cymdeithasau diwylliannol Cymreig.
Barddoniaeth
golyguCyfansoddodd sawl darn o farddoniaeth yn y Gymraeg, yn enwedig ar gyfer eisteddfodau: enillodd y Gadair yn Eisteddfod Caerdydd 1834 am ei awdl 'Y Derwyddon' sy'n drwm dan ddysgeidiaeth ramantaidd (a ffug) ei dad am y Derwyddon Cymreig a'u traddodiadau. Ysgrifennodd gerddi Saesneg hefyd, e.e. Cardiff Castle (1827) a The Doom of Colyn Dolphyn (1837); roeddent yn gerddi pur boblogaidd yn eu cyfnod.
Cyfeiriadau
golygu