Cwmni Beyer Peacock

Gwneuthurwr locomotifau oedd Cwmni Beyer Peacock a ffurfiwyd gan Charles Frederick Beyer a Richard Peacock ym 1853. Cynlluninwyd eu gweithdy, Ffowndri Gorton ym Manceinion gan Beyer, lle adeiladodd lawer o'r peiriannau. Gwnaed y cwmni'n gwmni cyfyngedig yn 1902 a daeth i ben ym 1966.[1]

Cwmni Beyer Peacock
Enghraifft o'r canlynolbusnes Edit this on Wikidata
Daeth i ben1966 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1854 Edit this on Wikidata
SylfaenyddCharles Beyer, Richard Peacock Edit this on Wikidata
Isgwmni/auBowesfield Works, Richard Garrett & Sons Edit this on Wikidata
Cynnyrchlocomotif, Beyer Peacock works no. 1583, Beyer Peacock works no. 1584, Isle of Wight Central Railway no. 8, Beyer Peacock works no. 2231, Isle of Wight Railway “Ryde”, Isle of Wight Railway “Sandown”, Beyer Peacock 2-4-0T works no. 402, Isle of Wight Railway “Shanklin”, Beyer Peacock 2-4-0T works no. 404, Beyer Peacock works no. 205 Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://beyerpeacock.co.uk Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Locomotif Beyer Peacock yn Canberra, Awstralia
Rhif 87, Rheilffordd Eryri

Locomotifau golygu

Cwblhawyd ei locomotif cyntaf – un o wyth locomotif 2-2-2 ar gyfer Rheilffordd y Great Western yn ôl cynllun Daniel Gooch, arolygydd locomotifau cyntaf y rheilffordd, ar 21 Gorffennaf 1855, yn costio £2,660. Roedd gan y cwmni berthynas agos efo Charles Beattie, arolygydd locomotifau'r Rheilffordd Llundain a'r De Orllewin.[1]

Y Beyer Garratt golygu

 
Locomotif Beyer Garratt yn Amgueddfa Mount Barker, De Awstralia

Dyfeisiwyd y Locomotif Beyer Garratt gan Herbert William Garratt, peiriannydd i lywodraeth De Cymru Newydd ym 1907, ac aeth at y cwmni efo'i syniad. Oherwydd ei waith tramor, a'i farwolaeth ym 1913, gwnaethpwyd y mwyafrif o'r gwaith datblygu gan gwmni Beyer Peacock.

Rheilffordd y Trallwng a Llanfair golygu

 
Earl
 
Countess

Adeiladwyd dau locomotif gwreiddiol y rheilffordd, 'Earl' a 'Countess' gan Beyer Peacock, ac maent yn dal i weithio hyd heddiw.[2]

Rheilffordd Eryri golygu

 
Locomotif yn ymyl Rhyd-Ddu

Mae gan Rheilffordd Eryri bum locomotif Beyer Garratt dosbarth NGG 2-6-2 + 2-6-2, a adeiladwyd ar gyfer rheilffyrdd yn Ne Affrica. Roedd sawl lein o led 2 droedfedd wedi cau, felly cytunwyd y byddai Rheilffordd Swydd Alfred yn atgyweirio a chyflenwi'r locomotifau. Un ohonynt, rhif 143, oedd yr un olaf a adeiladwyd gan gwmni Beyer Peacock.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Tudalen hanes ar wefan beyerpeacock". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2015-05-15.
  2. "Gwefan Rheilffordd y Trallwng a Llanfair". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-15. Cyrchwyd 2015-07-30.
  3. Tudalen Beyer Garratt ar wefan Cymdeithas Rheilffordd Eryri

Llyfryddiaeth golygu

  • A Short History of Beyer, Peacock gan Richard L. Hills
  • The Origins of the Garratt Locomotive gan Richard L. Hills (Gwasg Plateway)

Dolen allanol golygu