Cymdeithas Rhwyfo Môr Cymru

Cymdeithas Rhwyfo Môr Cymru (Saesneg: Welsh Sea Rowing Association, WSRA) yw corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer rhwyfo arfordirol a chefnforol yng Nghymru. Mae'n aelod o Rhwyfo Cymru (Saesneg: Welsh Rowing) ac fe'i cynrychiolir yn Rhwyfo Cymru ar lefel bwrdd ac ar Is-bwyllgorau Perfformiad, y Datblygiad, Hyfforddi ac Addysg, a Digwyddiadau. Mae'r WSRA wedi ymrwymo i barhau i ehangu a datblygu rhwyfo arfordirol a chefnforol mewn Cychod Hir Celtaidd ac Yoles.[1]

Mae'r WSRA yn gyfrifol am gystadlaethau rhwyfo arfordirol yng Nghymru, gan gynnwys Cynghrair WSRA, sydd â dau gategori rasio: Celtic Longboats; ac Yoles. Mae'r rasys yn cynnwys Iau, Hŷn, Cyn-filwyr (40+) a Super Veteran (50+) ar gyfer criwiau Dynion, Merched a Chymysg. Daeth nifer dda i'r gyfres o rasys Cynghrair y Gogledd a'r De yn 2008 a 2009 a chymeradwywyd a chyhoeddwyd dyddiadau a lleoliadau digwyddiadau 2010 i'w gwefan. Mae aelodau WSRA yn mwynhau ystod ragorol o rasys ac maent hefyd yn cadw record ddiogelwch drawiadol.[2]

Mae Cymdeithas Rhwyfo Môr Cymru wedi'i lleoli yn Aberystwyth.[3]

Bydd ei haelodau yn cystadlu yn Ras Rwyfo'r Her Geltaidd a gynhelir rhwng tref Arklow yn Iwerddon ac Aberystwyth yng Nghymru bob yn ail flwyddyn.

Hyfforddiant golygu

Mae'r Gymdeithas yn cynnig sesiynau hyfforddi dan-do i bobl sydd â diddordeb yn y maes.[4]

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. name="WARA 6">"WARA_Governance_Annex1-rev for incorporation.jpg 1755x1240 pixels". Welsh Amateur Rowing Association-Rhwyfo Cymru. Welsh Amateur Rowing Association. 2007. Cyrchwyd 2009-07-16. [dolen marw]
  2. name="WSRA 1">"Welsh Sea Rowing Association". Welsh Sea Rowing Association-Cymdeithas Rhwyfo Môr Cymru press release. Welsh Sea Rowing Association. 2009-05-20. Archifwyd o'r gwreiddiol ar August 14, 2009. Cyrchwyd 2009-07-15.
  3. name="WSRA 2">"Welsh Sea Rowing Association". Welsh Sea Rowing Association-Cymdeithas Rhwyfo Môr Cymru press release. Welsh Sea Rowing Association. 2009-02-02. Archifwyd o'r gwreiddiol ar August 14, 2009. Cyrchwyd 2009-07-15.
  4. https://www.welshrowing.com/we/indoor_workshop.php