Cwch Hir Celtaidd
Mae'r Cwch Hir Celtaidd yn gwch rhwyfo a ddefnyddir ar gyfer rhwyfo arfordirol a môr, hyfforddi ac hamdden. Mae ganddo le ar gyfer set o bedwar rhwyfwr unrhwyf (lle bydd y rhwyfwr ond yn defnyddio un rhwyf gyda rhwyfwr arall yn rhwyfo ar yr ochr arall, gyfochrog, neu bob yn ail iddo). Ceir hefyd llyw ("coxswain").
Mae gan y fath yma o gwch hanes hir ar hyd arfordir gorllewin Cymru.
Gweinyddu
golyguCymdeithas Rhwyfo Môr Cymru yw'r corff sy'n gweinyddu a rheoli rasys Cychod Celtaidd. Ceir sawl Clwb Cychod Celtaidd ar draws Cymru.[1]
Adeiladu
golyguMae cwmni "Dale Sailing" o Neyland yn Sir Benfro wedi eu dynodi'r adeiladwr yn 1999 ac mae dros 22 o gychod wedi eu hadeiladu ganddynt gyda 4 wedi mynd i Dubai a 12 arall ar archeb.[2]
Heriau Rhwyfo Môr mewn Cwch Hir Hir Celtaidd
golyguBydd Cychod Hir Celtaidd yn cymryd rhan mewn rasys megis Ras Rwyfo'r Her Geltaidd a gynhelir bob yn ail flwyddyn rhwng Arklow yn Iwerddon ac Aberystwyth yng Nghymru. Cynhaliwyd y ras gystadleuol gyntaf yn 1993.
Bu i Gychod Hirion Celtaidd hefyd rwyfo rhwng Porth Oer ger Aberdaron ym Mhenrhyn Llŷn a Phenrhyn Wichlow yn Swydd Wicklow yn Iwerddon yn 2006.[3]
Gweler hefyd
golyguCeir clybiau cychod hir Celtaidd mewn sawl tref yng Nghymru:
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Reynolds, Dave. "Welsh Sea Rowing Association". www.welshsearowing.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-09. Cyrchwyd 2017-03-01.
- ↑ "Celtic Longboat Information". rendell-attic.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-02. Cyrchwyd 2017-03-01.
- ↑ http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_4970000/newsid_4978400/4978454.stm,
- ↑ https://www.dewis.cymru/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=9549[dolen farw]
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-25. Cyrchwyd 2019-10-25.
- ↑ http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/safle/chwaraeon/pages/rhwyfo_cerian.shtml