Awdures a bardd Americanaidd oedd Dorothy Parker (22 Awst 18937 Mehefin 1967), a oedd mwyaf adnabyddus am ei hiwmor a'i ffraethineb ynghyd â'i sylwadau bachog am ffolineb yr 20g.

Dorothy Parker
GanwydDorothy Rothschild Edit this on Wikidata
22 Awst 1893 Edit this on Wikidata
West End Edit this on Wikidata
Bu farw7 Mehefin 1967 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Miss Dana's School for Young Ladies Edit this on Wikidata
Galwedigaethcolofnydd, bardd, sgriptiwr, ysgrifennwr, beirniad llenyddol, newyddiadurwr, cyfansoddwr caneuon, dialogue writer Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Arddullbarddoniaeth, dychan Edit this on Wikidata
TadJacob Henry Rothschild Edit this on Wikidata
PriodAlan Campbell Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr O. Henry Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://dorothyparker.com/ Edit this on Wikidata

Ar ôl plentyndod trist a chythryblus, daeth Parker yn enwog am ei gweithiau llenyddol mewn cyhoeddiadau fel The New Yorker ac roedd yn un o'r bobl a sefydlodd y Algonquin Round Table, grŵp a gasaodd yn hwyrach yn ei bywyd. Pan chwalodd y cylch hwnnw, teithiodd Parker i Hollywood i ddilyn gyrfa fel sgriptiwr. Cafodd lwyddiant yno, gan gynnwys dau enwebiad am Wobrau'r Academi, ond daeth ei llwyddiant i ben o ganlyniad i'w gwleidyddiaeth adain chwith, a arweiniodd iddi gael ei rhoi ar restr ddu Hollywood.

Bu Parker yn briod deirgwaith, (dwywaith i'r un dyn) a goroesodd sawl ymgais i gyflawni hunanladdiad, ond daeth yn gynyddol ddibynol ar alcohol. Fodd bynnag, mae ei gweithiau llenyddol a'i ffraethineb wedi goroesi.