Yr effaith Doppler yw'r newid mewn amledd dirgryniad (er enghraifft sŵn neu oleuni) sydd i'w canfod pan fo'r ffynhonnell neu’r derbynnydd yn symud at neu i ffwrdd o’i gilydd[1][2]. Enghraifft gyfarwydd yw traw sŵn cerbyd wrth agosáu a phasio ar y ffordd (corn ambiwlans neu feic modur, er enghraifft). Disgrifiwyd yr effaith yn ffurfiol gan y ffisegydd o Awstria, Christan Doppler (1803-1853) yn 1842[3].

Effaith Doppler
Enghraifft o'r canlynolffenomen ffisegol Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1842 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae amledd sain a golau yn newid os yw'r ffynhonnell neu'r derbynnydd yn symud

Bu canfod effaith Doppler mewn sbectra sêr yn allweddol wrth ddatblygu esboniad presennol esblygiad y bydysawd. Yn y 19eg ganrif, trwy ddadansoddi ymddygiad ei goleuni, sylwodd William Huggins (1824-1910)[4] ag eraill bod y sêr yn symud. Dros y ddeugain mlynedd nesaf bu nifer o ddatblygiadau a arweiniodd i'r sylweddoliad bod y bydysawd yn chwyddo - a'i bod wedi cychwyn mewn "Glec Fawr". (Y mae’r rhan helaethaf o sêr y bydysawd yn symud i ffwrdd ohonom, ac felly tonfedd eu golau yn ymestyn – yn symud i gyfeiriad coch y sbectrwm (rhuddiad).) Bu enw'r seryddwr o America, Edwin Hubble (1889-1953)[5] yn un amlwg yn y gweithgaredd hwn, er bu nifer o gyfranwyr a chyfranwragedd eraill.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Doppler Shift". NASA. 24 Medi 2020. Cyrchwyd 5 Mai 2021.
  2. "Light and Matter". Benjamin Crowell. 7 Mai 2020. tt. 511-516 (pdf). Cyrchwyd 7 Mai 2021.
  3. "Christian Doppler - The discoverer of the Doppler effect". Asiantaeth Ofod Ewrop. 2019. Cyrchwyd 5 Mai 2021.
  4. "William Huggins". Y Gymdeithas Frenhinol. Cyrchwyd 5 Mai 2021.
  5. "Edwin Powell Hubble (1889-1953)". NASA. 29 Mawrth 2021. Cyrchwyd 5 Mai 2021.