Bydysawd (seryddiaeth)
Y Bydysawd yw cyfanrwydd y gofod ac amser a'u cynnwys: holl ffurfiau'r planedau, sêr, galaethau, y gofod rhyngalaethog, y gronynnau isatomig lleiaf un, mater, ynni, momentwm, y deddfau ffisegol a chysonau sy'n eu rheoli.[9][10][11][12] Serch hynny, gellir defnyddio'r term "bydysawd" mewn cyd-destun gwahanol gan gyfeirio at gysyniadau fel y byd neu natur er enghraifft neu'n dffigyroli olygu 'popeth'.
![]() Delwedd a dynnwyd gan Delesgop Gofod Hubble o rai o'r galaethau pellaf a ellir eu canfod gyda'r dechnoleg gyfredol, gan ddangos smotiau sy'n cynnwys biliynau o sêr. Mae'r arwynebedd cyfan (o'r awyr) yn fach iawn ac yn gywerth ag un degfed rhan o'r lleuad.[1] | |
Oedran | 13.799 ± 0.021 biliwn o flynyddoedd[2] |
---|---|
Diameter | O leiaf 91 biliwn blwyddyn-golau (28 biliwn parsecs)[3] |
Màs (mater cyffredin) | O leiaf 1053 kg[4] |
Dwysedd cyfartalog | 4.5 x 10−31 g/cm3[5] |
Tymheredd cyfartalog | 2.72548 K[6] |
Prif gynnwys | Mater (4.9%) Mater tywyll (26.8%) Egni tywyll (68.3%)[7] |
Siâp | Fflat, gyda 0.4% lled y gwall[8] |
Yn ôl y mwyafrif o astroffisegwyr, y digwyddiad a ddechreuodd y bydysawd oedd y Glec Fawr.
Mae'r bydysawd a ellir ei weld (observable universe) oddeutu 28 biliwn parsecs (91 biliwn blwyddyn-golau) mewn diametr, ar hyn o bryd,[3] ond ni wyddys main y bydysawd cyfan. Gall fod yn feidraidd neu'n anfeidraidd (hy gall fod a dechrau a diwedd iddo, neu, o bosib, yn ddiddiwedd).[13] Mae arsylwi arno, a datblygiad damcaniaethau ffisegol wedi arwain gwyddonwyr i ddo i gasgliadau am ei wneuthuriad a'i esblygiad dros amser.[2]
Drwy gydol hanes, cynigiwyd llawer o fodelau gwyddonol yn ymwneud â chosmoleg a chosmoneg, er mwyn ceisio esbonio arsylwadau o'r Bydysawd, ac yn eu plith modelau gan y Groegiaid athronwyr Groegaidd ac Indiaidd.[14][15] Dros y canrifoedd, yn dilyn arsylwadau seryddol mwy manwl, daeth Nicolaus Copernicus i'r casgliad fod yr Haul yn yng nghanol Cysawd yr Haul, ac yna datblygwyd y gwaith hwn gan Tycho Brahe a Johannes Kepler, gan nodi fod cylchdro'r planedau yn eliptig. Aeth Isaac Newton gam ymhellach yn ei esboniad o ddisgyrchiant. Cam pwysig arall oedd sylweddoli fod Cysawd yr Haul wedi'i leoli mewn galaeth oedd yn cynnwys biliynau o sêr: y Llwybr Llaethog.
Darhanfyddwyd wedyn mai un o lawer oedd ein galaeth ni. Yn gyffredinol, credir nad oes dechrau na diwedd i'r Bydysawd a gelwir yr astudiaeth o'r myrdd o alaethau wedi eu rhannu'n unffurf at gosmoleg ffisegol.
CyfeiriadauGolygu
Seryddiaeth | |
Lleuad |
- ↑ "Hubble's Deepest View of Universe Unveils Never-Before-Seen Galaxies". HubbleSite.org. Cyrchwyd 2016-01-02.
- ↑ 2.0 2.1 Planck Collaboration (2015). Planck 2015 results. XIII. Cosmological parameters (Gweler tabl 4 ar dudalen 31 o'r pfd).. arXiv:1502.01589. Bibcode 2015arXiv150201589P.
- ↑ 3.0 3.1 Itzhak Bars; John Terning (2009). Extra Dimensions in Space and Time. Springer. tt. 27ff. ISBN 978-0-387-77637-8. Cyrchwyd 2011-05-01.
- ↑ Paul Davies (2006). The Goldilocks Enigma. First Mariner Books. t. 43ff. ISBN 978-0-618-59226-5. Cyrchwyd 2013-07-01.
- ↑ NASA/WMAP Science Team (24 Ionawr 2014). "Universe 101: What is the Universe Made Of?". NASA. Cyrchwyd 2015-02-17.
- ↑ Fixsen, D. J. (2009). "The Temperature of the Cosmic Microwave Background". The Astrophysical Journal 707 (2): 916–920. arXiv:0911.1955. Bibcode 2009ApJ...707..916F. doi:10.1088/0004-637X/707/2/916.
- ↑ "First Planck results: the Universe is still weird and interesting". Matthew Francis. Ars technica. 2013-03-21. Cyrchwyd 2015-08-21.
- ↑ NASA/WMAP Science Team (24 Ionawr 2014). "Universe 101: Will the Universe expand forever?". NASA. Cyrchwyd 16 Ebrill 2015.
- ↑ Universe. Webster's New World College Dictionary, Wiley Publishing, Inc. 2010.
- ↑ "Universe". Dictionary.com. Cyrchwyd 2012-09-21.
- ↑ "Universe". Merriam-Webster Dictionary. Cyrchwyd 2012-09-21.
- ↑ Zeilik, Michael; Gregory, Stephen A. (1998). Introductory Astronomy & Astrophysics (arg. 4th). Saunders College Publishing. ISBN 0030062284.
The totality of all space and time; all that is, has been, and will be.
- ↑ Brian Greene (2011). The Hidden Reality. Alfred A. Knopf.
- ↑ Dold-Samplonius, Yvonne (2002). From China to Paris: 2000 Years Transmission of Mathematical Ideas. Franz Steiner Verlag.
- ↑ Thomas F. Glick; Steven Livesey; Faith Wallis. Medieval Science Technology and Medicine: An Encyclopedia. Routledge.
Gweler hefydGolygu
- Bydysawd (cosmoleg) - y cysyniad o'r bydysawd yn nhermau mytholeg a chrefydd.