Nofel ffantasi ddigri gan Terry Pratchett ydy Hogfather, a'r 20fed nofel yng nghyfres y Disgfyd. Cyhoeddwyd yn 1996.

Hogfather
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurTerry Pratchett Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1996 Edit this on Wikidata
Genreffantasi Edit this on Wikidata
CyfresDisgfyd, Death Edit this on Wikidata
CymeriadauDeath Edit this on Wikidata
Prif bwncNadolig Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
Nofel Terry Pratchett "Hogfather"

Mae'r Hogfather hefyd yn gymeriad yn y llyfr, mae'n personoliad anthropomorphig, sy'n cynyrchioli rhywbeth tebyg i Siôn Corn. Mae'n rhoi dymuniadau i blant y Disgfyd ar Hogswatchnight (y 32ain o Ragfyr) ac yn dod ag anrhegion iddynt, mae hefyd yn ymddangos yn nofelau eraill y Disgfyd.

Mae'r llyfr yn ymdrin â natur crêd, yn arbennig y ffordd mae pobl yn teimlo'r angen i gredu mewn pethau bach lle nad oes unrhyw dystiolaeth, megis y "Hogfather" a "Tooth Fairie", er mwyn gallu credu mewn pethau mwy fel Cyfiawnder a Gobaith. Fel y disgrifia Pratchett, mae ffantasi yn feic ymarfer yr ymenydd; nid yw'n mynd i unman ond mae'n gwella'r cyhyrau y gall.

Addasiad teledu golygu

Addaswyd y nofel yn gyfres deledu dau ran Hogfather a'i ddarlledwyd ar 17 a 18 Rhagfyr 2006 (8:00 p.m.) ar Sky One yng ngwledydd Prydain. Ian Richardson oedd llais Death a chwaraeodd David Jason ei was, Albert. Chwaraeodd Marc Warren Mr. Teatime; Tony Robinson, y siopwr Vernon Crumley; a Rhodri Meilir, Bilious. Roedd gan Terry Pratchett gameo byr fel y gwneuthuriwr tegannau.

Darlledwyd gyntaf yn yr Unol Daleithiau ar 25 Tachwedd 2007 ar ION Television, yn Awstralia ar 23 a 24 Rhagfyr 2007 ar Channel Seven, ac yn yr Almaen ar 25 Rhagfyr 2007 ar ProSieben.

Dolenni allanol golygu