International Solidarity Movement

Mudiad sy'n cael ei reoli gan nifer o bobl blaenllaw a rhyngwladol sydd o blaid achos y Palesteiniaid ydy'r Mudiad dros Solidariaeth Rhyngwladol (Saesneg: International Solidarity Movement (ISM)) drwy ei ddefnydd o ymgyrchoedd a phrotestiadau di-drais.

International Solidarity Movement
Enghraifft o'r canlynolsefydliad di-elw Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2001 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.palsolidarity.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Aelodau o'r Mudiad Dros Solidariaeth Rhyngwladol yn rhwymo eu hunain i seiliau Mur Y Lan Orllewinol fel rhan o ymgyrch ddi-drais yn erbyn y Mur ger pentref Bil'in.
Mae llawer o ymgyrchwyr di-drais yr ISM wedi eu saethu gan filwyr Israel.[1]

Cafodd ei sefydlu yn 2001 gan Ghassan Andoni, ymgyrchydd Palesteinaidd; Neta Golan, ymgyrchydd Israelaidd; Huwaida Arraf, Americanwr-Palesteinaidd a George N. Rishmawi, ymgyrchydd Palesteinaidd. Ymunodd Adam Shapiro, Americanwr ychydig wedi ei sefydlu ac mae'n cael ei gyfri gan y mudiad fel un o'r sefydlwyr gwreiddiol.

Mae'r mudiad yn galw ar y cyhoedd ledled y byd i gymryd rhan mewn gweithredoedd di-drais yn erbyn byddin Israel yn y Lan Orllewinol a'r Llain Gaza.

Nid ydy'r mudiad yn derbyn nawdd gan wledydd na chyrff ond yn hytrach, dibynna ar unigolion i'w gynorthwyo'n ariannol.[2]

Di-drais golygu

Mae Datganiad o Fwriad yr ISM yn datgan:

"As enshrined in international law and UN resolutions, we recognize the Palestinian right to resist Israeli violence and occupation via legitimate armed struggle. However, we believe that nonviolence can be a powerful weapon in fighting oppression and we are committed to the principles of nonviolent resistance.
This right to resist occupation applies not only to the Palestinian people, but to all peoples who are faced with a military occupation. The ISM regards all people as equals with equal rights under international law. We believe that nonviolent action is a powerful weapon in fighting oppression and are committed to the principles of nonviolent resistance."[3]

Ers Awst 2008, mae'r mudiad wedi cefnogi ymgyrch i godi'r gwarchae neu flocâd a roddwyd gan Israel ar ranbarthau Palesteinaidd drwy fordeithiau dyngarol ar y cyd gyda Mudiad Rhyddid i Gaza.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan y mudiad". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-04. Cyrchwyd 2010-06-05.
  2. [1][dolen marw] Erthygl: "The ISM regularly sends speakers on fund-raising trips and encourages funding drives."
  3. Frequently Asked Questions: Does the ISM support suicide bombers and terrorists?, Tudalen "FAQ" ar wefan yr ISM.

Dolennau allanol golygu