Mudiad Rhyddid i Gaza

Mudiad dros hawliau dynol rhyngwladol ydy Mudiad Rhyddid i Gaza (Saesneg: Free Gaza Movement). Fe'i sefydlwyd pan ddaeth nifer o fudiadau ac unigolion Palesteinaidd at ei gilydd. Credant fod blocâd Israel ar Lain (2007-heddiw), ers i Hamas gael eu hethol, yn anghyfiawn a cheisiant dynnu sylw'r byd at hyn. Maen nhw'n cyflawni hyn yn bennaf drwy hwylio cychod o wledydd megis Groeg a Chyprus i Gaza.[1] Mae gan y grwp dros 70 o gefnogwyr byd-enwog megis Desmond Tutu a Mairead Corrigan, dau enillydd Gwobr Heddwch Nobel.

Logo Mudiad Rhyddid i Gaza

Mae'r mudiadau hynny sy'n weithredol o fewn Mudiad Rhyddid i Gaza yn cynnwys: International Solidarity Movement.[2] a nifer o fudiadau o wahanol grefyddau gan gynnwys Cristnogion, Iddewon a Mwslemiaid [3] ac unigolion megis Jeff Halper, Hedy Epstein a Lauren Booth,

Mordeithiau

golygu

Cynhaliwyd y fordaith gyntaf yn Awst 2008 pan aethpwyd â cymorthwywyr clyw (Saesneg: hearing aids) i elusen yn Llain Gaza. Arestiwyd nifer o bobl gan Israel gan gynnwys Lauren Booth (chwaer Cheryl Booth) a Jeff Halper. Gyda rhoddion o dros £300,000 prynwyd dau gwch.

Yn Hydref 2008 caniataodd Llywodraeth Israel i'r cwch 66 troedfedd Dignity lanio gyda 27 aelod o Fudiad Rhyddid i Gaza ar y bwrdd a chargo o nwyddau meddygol. Roedd Mairead Corrigan ac aelod o Cyngor Deddfu Palesteinaidd (Saesneg: Palestinian Legislative Council) a Mustafa Barghouti ar y daith.[4]

 
'Ysbryd Dynoliaeth' yn gadael Porthladd Larnaca, Ionawr 2009

Cafwyd dwy fordaith yn ystod Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008–2009 a hynny yn Rhagfyr 2008 ac Ionawr 2009. Roedd tri llawfeddyg ar ei bwrdd - a nifer o enwogion pan ramiwyd y cwch gan un o gychod llynges Israel a thaniwd 'machine gun' gan yr Israeliaid fel rhybudd. Difrodwyd y cwch yn arw a bu'n rhaid angori yn Libanus.

Ym Mehefin 2009 cafwyd mordaith ar gwch 'Ysbryd Dynoliaeth' a gorfodwyd ef i borthladd Ashdod gan filwyr Israel a chymerwyd y criw a'r teithwyr i'r ddalfa.

Yn Mai - Mehefin 2010 hwyliodd 6 o longau cludo nwyddau dyngarol i Gaza ac ar 31 Mai ymosododd Israel ar un o'r cychod gan ladd dros 9 o'r sifiliaid.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Erthygl: "Group will test Israel’s Gaza blockade". Archifwyd 2012-06-03 yn y Peiriant Wayback Adalwyd ar 04-07-2009. Cyhoeddwyr: Jewish Telegraphic Agency.
  2. Erthygl: "Israel concerned leftists plan to send ship from Cyprus to break Gaza blockade"
  3. "Israel says Free Gaza Movement poses threat to Jewish state, Scott Wilson, Washington Post, 1 Mehefin, 2010. Adalwyd yn 04-07-2009; Haaretz
  4. "Gaza activist boat docks" Archifwyd 2010-08-23 yn y Peiriant Wayback, Jewish Telegraph Agency (JTA), 29 Hydref, 2008.

Dolennau allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: