Morgi rhesog
Amrediad amseryddol:
Mïosen uwch i'r presennol
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Chondrichthyes
Urdd: Carcharhiniformes
Teulu: Carcharhinidae
Péron & Lesueur, 1822
Genws: Galeocerdo
Rhywogaeth: G. cuvier
Enw deuenwol
Galeocerdo cuvier
Péron & Lesueur, 1822
Dosbarthiad
Cyfystyron

Squalus cuvier François Péron a Charles Alexandre Lesueur, 1822
Galeocerdo tigrinus Johannes Peter Müller and Friedrich Gustav Jakob Henle, 1837

Rhywogaeth o'r morgi requiem yw'r morgi rhesog (Galeocerdo cuvier[1]) a'r unig aelod o'r genws Galeocerdo. Mae'n facroysglyfaethwr, ac yn gallu tyfu i dros 5 metre (16 ft 5 in) o hyd.[2] Maent i'w canfod mewn nifer o ddyfroedd trofannol ac mewn hinsoddau tymherus, yn arbennig o gwmpas ynysoedd canol y Cefnfor Tawel. Mae ei enw yn cyfeirio at y rhesi tywyll ar ei gorff, sy'n pylu wrth i'r morgi aeddfedu.[3]

Profile photo of shark, accompanied by remora, swimming just above a sandy seafloor
Morgi rhesog ifanc yn y Bahamas.

Mae'r morgi rhesog yn hela ar ei ben ei hun ac yn ystod y nos yn bennaf. Mae'n cael ei adnabod am fod â'r ystod ehangaf o fwyd o'r holl forgwn, gydag ysglyfaeth yn cynnwys creaduriaid cramennog, pysgod, morloi, adar, môr-lewys, crwbanod y môr, nadroedd y môr, dolffiniaid, a hyd yn oed morgwn llai eu maint. Mae ganddo hefyd enw fel "bwytwr ysbwriel", yn llyncu amrywiaeth o wrthrychau anfwytadwy a wnaed gan bobl sy'n aros yn ei ystumog. Er eu bod yn ben ysglyfaethwyr, mae morgwn rhesog weithiau yn cael eu cipio gan leiddiaid.[3][4] Mae'n cael ei ystyried yn rhywogaeth mewn perygl o ganlyniad i hela a physgota gan bobl.[5]

Mae'r morgi rhesog yn ail yn unig i'r morgi mawr gwyn am y nifer o ymosodiadau marwol ar bobl.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. "ITIS Report – Galeocerdo cuvier". Integrated Taxonomic Information System!. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2015.
  2. Froese, Rainer and Pauly, Daniel, eds. (2011). "Galeocerdo cuvier" in FishBase. Fersiwn Gorffennaf 2011.
  3. 3.0 3.1 Ritter, Erich K. (15 December 1999). "Fact Sheet: Tiger Sharks". Shark Info.
  4. "Incredible moment killer whales hunt and kill a tiger shark". Daily Mail.
  5. Simpfendorfer, C. (2009). "Galeocerdo cuvier"[dolen marw]. Rhestr Goch yr IUCN. IUCN. 2009: e.T39378A10220026. doi:10.2305/IUCN.UK.2009-2.RLTS.T39378A10220026.en. Retrieved 15 Ionawr 2018.
  6. Knickle, Craig. "Tiger Shark Biological Profile". Florida Museum of Natural History Ichthyology Department.