Sir Llundain

sir Lloegr rhwng 1889 a 1965

Sir gweinyddol yn ne-ddwyrain Lloegr oedd Sir Llundain (Saesneg: County of London). Roedd ganddi ffiniau sy'n cyfateb yn agos i'r ardal a elwir bellach yn Llundain Fewnol. Fe'i crëwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888. Ei chorff llywodraethu oedd Cyngor Sir Llundain (Saesneg: London County Council, LCC).

Sir Llundain
Mathsir hanesyddol y Deyrnas Unedig, cyn endid gweinyddol tiriogaethol, administrative county, siroedd seremonïol Lloegr, ardal cyngor sir Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 21 Mawrth 1889 (Local Government Act 1888) Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolLloegr Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gydaMiddlesex, Surrey, Essex, Caint, County Borough of West Ham, County Borough of Croydon, East Ham, Caint, Surrey Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.516°N 0.092°W Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Sir Llundain yn Lloegr

Roedd gan y sir arwynebedd o 303 km². Yn ystod ei bodolaeth bu dirywiad graddol yn y boblogaeth wrth i drigolion symud i'r maestrefi allanol. Ym 1911 roedd ganddi boblogaeth o 4,521,685; erbyn 1961 roedd y cyfanswm hwn wedi gostwng i 3,200,484. Fe'i rhannwyd yn ddwy ran (gogledd a de) gan Afon Tafwys, sef y nodwedd ddaearyddol fwyaf arwyddocaol. Roedd yn ffinio ag Essex i'r gogledd-ddwyrain, Middlesex i'r gogledd, Surrey i'r de-orllewin, a Caint i'r de-ddwyrain.

Ym 1900 trefnwyd y sir yn 28 o fwrdeistrefi metropolitan.

Ym 1965 fe'i diddymwyd gan Ddeddf Llywodraeth Llundain 1963 a'i disodli gan Llundain Fwyaf, a lywodraethwyd gan Cyngor Llundain Fwyaf (Saesneg: Greater London Council, GLC). Roedd Llundain Fwyaf tua phum gwaith yn fwy na Sir Llundain, ac roedd hefyd yn cynnwys yr hen sir Middlesex yn ogystal â rhannau o Essex, Swydd Hertford, Surrey, a Chaint. Unwyd y 28 bwrdeistref fetropolitan yn Sir Llundain i ffurfio 12 o fwrdeistrefi Llundain newydd.