Arcangelo Corelli
cyfansoddwr a aned yn 1653
Cyfansoddwr a fiolinydd o'r Eidal oedd Arcangelo Corelli (17 Chwefror 1653 – 8 Ionawr 1713).
Arcangelo Corelli | |
---|---|
Ganwyd | Arcangelo Corelli 17 Chwefror 1653 Fusignano |
Bu farw | 8 Ionawr 1713 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Taleithiau'r Babaeth |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, fiolinydd, fiolydd |
Adnabyddus am | Concerti grossi, op. 6, Twelve Violin Sonatas, Op.5 |
Arddull | cerddoriaeth faróc, cerddoriaeth glasurol |
Mudiad | cerddoriaeth faróc |
Cyfansoddodd nifer o sonatas i'r fiolin ac yn ogystal sefydlodd y concerto grosso fel ffurf gerddorol. Daeth y concerto grosso, sy'n cyferbynu grŵp bach o offerynnau â cherddorfa lawn, yn un o hoff ffurfiau'r cyfansoddwyr baroc yn y 18g.
Gwaith mwyaf adnabyddus Corelli yw Concerto'r Nadolig.
Gwaith cerddorol
golyguMae chwech opus yn cael eu derbyn fel gwaith Corelli, ynghŷd ag ambell waith arall:
- Opus 1: 12 sonatas da chiesa (trio o sonatas i 2 fiolin a continuo) (Rhufain 1681)
- Opus 2: 12 sonatas da camera (trio o sonatas i 2 fiolin a continuo) (Rhufain 1685)
- Opus 3: 12 sonatas da chiesa (trio o sonatas i 2 fiolin a continuo) (Rhufain 1689)
- Opus 4: 12 sonatas da camera (trio o sonatas i 2 fiolin a continuo) (Rhufain 1694)
- Opus 5: 12 Suonati a violino e violone o cimbalo (6 sonatas da chiesa a 6 sonatas da camera i fiolin a continuo) (Rhufain 1700)
- Opus 6: 12 concerti grossi (8 concerti da chiesa a 4 concerti da camera i'r concertino o 2 fiolin a tsielo, ripieno llinynnol a continuo) (Amsterdam 1714)
- op. post.: 6 Sonate a tre WoO 5–10 (Amsterdam 1714)