Arkhangelsk
dinas yn Rwsia
(Ailgyfeiriad o Archangelsk)
Dinas yn Rwsia yw Arkhangelsk (Rwseg: Архáнгельск), weithiau Archangel, sy'n ganolfan weinyddol Oblast Arkhangelsk yn rhanbarth gweinyddol y Dosbarth Ffederal Gogledd-orllewinol. Poblogaeth: 348,783 (Cyfrifiad 2010).
Math | tref/dinas |
---|---|
Enwyd ar ôl | Mihangel |
Poblogaeth | 351,488 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Q105150513 |
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Arkhangelsk Urban Okrug |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 294.42 km² |
Uwch y môr | 3 metr |
Yn ffinio gyda | Novodvinsk, Rhanbarth Primorsky |
Cyfesurynnau | 64.5431°N 40.5375°E |
Cod post | 163000–163072 |
Pennaeth y Llywodraeth | Q105150513 |
Saif y ddinas ar lannau Afon Dvina Ogleddol ger ei haber yn y Môr Gwyn yng ngogledd Rwsia Ewropeaidd. Mae rheilffordd 1,133 cilometer (704 milltir) yn ei chysylltu â'r brifddinas, Moscfa, drwy Vologda a Yaroslavl.
Sefydlwyd y ddinas yn 1584. Hyd 1703, Arkhangelsk oedd prif borthladd Rwsia. Gyda Murmansk, roedd Arkhangelsk yn borthladd o bwys strategol mawr i'r Undeb Sofietaidd a'r Cynghreiriaid yn yr Ail Ryfel Byd.
Dolenni allanol
golygu- (Rwseg) Gwefan swyddogol y ddinas
- (Rwseg) Amgueddfa ranbarthol Arkhangelsk
- (Rwseg) Amgueddfa'r Celfyddydau Cain Oblast Arkhangelsk