Ashdod
Dinas bumed mwyaf Israel, ar lan y Môr Canoldir yn ne'r wlad, yw Ashdod neu Isdud (Hebraeg: אַשְׁדּוֹד Ashdod; Arabeg: اشدود, إسدود Isdud). Mae ganddi boblogaeth o 207,000 ac mae'n ganolfan ddiwydiannol ranbarthol bwysig. Porthladd Ashdod yw'r mwayf yn Israel a mewnforir tua 60% o fewnforion y wlad trwyddo.
Math | dinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 220,174 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Yehiel Lasri |
Cylchfa amser | UTC+2 |
Gefeilldref/i | Bordeaux, Bahía Blanca, Los Angeles, Wuhan, Tampa, Brest, Batumi, Zaporizhzhia, Atyrau, Arkhangelsk, Chişinău, Tiraspol, Bahir Dar, Spandau |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ashkelon Subdistrict |
Gwlad | Israel |
Arwynebedd | 47.242 km² |
Uwch y môr | 24 metr |
Cyfesurynnau | 31.7978°N 34.6503°E |
Cod post | 77041, 77042, 77043, 77044, 77046, 77050, 77051, 77060, 77100, 77101, 77102, 77103, 77104, 77105, 77106, 77107, 77109, 77110, 77112, 77113, 77115, 77116, 77117, 77120, 77121, 77122, 77123, 77124, 77126, 77130, 77131, 77132, 77133, 77134, 77136, 77140, 77141, 77150, 77151, 77153, 77154, 77160, 77161, 77162, 77163, 77164, 77166, 77167, 77168, 77170, 77180, 77181, 77182, 77183, 77185 |
Corff gweithredol | Municipality of Ashdod |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Mayor of Ashdod |
Pennaeth y Llywodraeth | Yehiel Lasri |
Mae'r aneddiad cyntaf a wyddys yn Ashdod yn perthyn i gyfnod diwylliant Canaan yn yr 17g CC. Cyfeirir at Ashdod 13 o weithiau yn y Beibl. Mae ei hanes yn ddrych i hanes Palesteina ei hun: roedd yn un o bum ddinas-wladwriaeth y Ffilistiaid a bu ym meddiant Teyrnas Israel, yr Ymerodraeth Rufeinig, yr Ymerodraeth Fysantaidd, y Croesgadwyr a'r Arabiaid. Sefydlwyd y ddinas fodern yn 1956 ar ôl i'r rhan fwyaf o'r Palesteiniaid lleol gael eu gorfodi i ymadael. Cafodd siarter dinas yn 1968.
Yn ystod Rhyfel Arabaidd-Israelaidd 1948, defnyddiodd Byddin yr Aifft Isdud fel canolfan. Ar ôl ymladd trwm ildiodd yr Eifftwyr y ddinas i'r Israeliaid ar yr 28ain o Hydref. Ffôdd y mwyafrif o boblogaeth Balesteinaidd y dref gyda'r fyddin; arosodd rhai cannoedd ond cawsont eu gorfodi i ymadael gan Llu Amddiffyn Israel. Ymgartrefodd y ffoaduriaid mewn gwersylloedd yn Llain Gaza lle mae'r mwyafrif ohonynt yn dal i fyw heddiw[1] Rhoddwyd yr enw Hebraeg 'Ashdod' i'r dref a dechreuodd Iddewon ymsefydlu yno. Bu cynnydd o 150% ym mhoblogaeth Ashdod rhwng 1991 a 2000 wrth i tua 100,000 o bobl gyrraedd yno i fyw, yn bennaf o'r hen Undeb Sofietaidd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Benny Morris, The Birth of the Palestinian Refugee Problem Revisited, Cambridge Press 2004 pp.471
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol y ddinas Archifwyd 2015-12-08 yn y Peiriant Wayback