Archifdy Ceredigion
Gwasanaeth archifau rhanbarthol ac archifdy sirol Cyngor Sir Ceredigion yw Archifdy Ceredigion.[1] Wedi'i lleoli ers 2012 [2] yn Neuadd y Dref Aberystwyth, mae'r archif yn casglu, curadu, cadw a rhoi mynediad i gofnodion yn ymwneud â'r sir a'i gweinyddiad.
Math | archif rhanbarthol, archifdy sir |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Aberystwyth |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Uwch y môr | 8.3 metr |
Cyfesurynnau | 52.417267°N 4.08153°W |
Cod post | SY23 2EB |
Rheolir gan | Cyngor Sir Ceredigion |
Mae’r archifau ar agor i’r cyhoedd ar gyfer ymchwil hanes teulu a hanes lleol, gwaith gradd prifysgol, ymchwil academaidd, ac ymchwil at ddibenion busnes.
Hanes
golyguSefydlwyd Archifdy Sir Ceredigion yn 1974 fel y drydedd archifdy ar gyfer Dyfed ac fe'i gelwid yn wreiddiol fel Archifdy Ardal Sir Aberteifi.[3] Cafodd ei ailenwi a'i ail-lansio fel Archifdy Ceredigion yn 1996.[4] Hyd at 2012 roedd yr Archif wedi’i lleoli yn adeilad rhestredig Gradd II Gwesty’r Frenhines ar Bromanâd Aberystwyth ond pan werthodd y cyngor yr adeilad, adeiladwyd cyfadeilad archif pwrpasol newydd yn Hen Neuadd y Dref, sydd hefyd yn gartref i Lyfrgell y dref.[2] Yn 2019 sicrhaodd yr Archifau gyllid gan Lywodraeth Cymru i brynu’r hen orsaf bad achub gerllaw er mwyn throi’n safle storio ar gyfer archifau.[5]
Casgliadau
golyguMae'r archifau yn cadw nifer o gasgliadau hanesyddol pwysig yn ymwneud â hanes Ceredigion. Mae'r rhain yn cynnwys cofnodion llys, cofnodion ystadau a chofrestrau plwyf, sy'n golygu bod yr archifau'n boblogaidd efo ymchwilwyr hanes teulu.[6] Mae'r archif hefyd yn cynnwys casgliad o gofnodion llongau o'r 19eg ganrif [7] a chasgliad cynhwysfawr o gofnodion cofrestru ceir, yn olrhain hanes moduro yn y sir. [8]
Yn 2015 derbyniodd yr archifau grant gan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Llawysgrifau Genedlaethol i trwsio llythyr pwysig gan filwr lleol a ymladdodd ym Mrwydr Waterloo . [9]
Mae'r archifau hefyd yn cadw archifau cyhoeddus Cyngor Sir Ceredigion gan gynnwys cofrestrau etholiadol, cofnodion ysgolion a chofnodion cynghorau lleol. [10]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Cyngor Sir Ceredigion County Council". www.ceredigion.gov.uk. Cyrchwyd 2022-12-12.
- ↑ 2.0 2.1 "Recent History 1974 until the present - Aberystwyth Council". www.aberystwyth.gov.uk. Cyrchwyd 2022-12-12.[dolen farw]
- ↑ "ARCHIFDY CEREDIGION ARCHIVES · British Universities Film & Video Council". bufvc.ac.uk. Cyrchwyd 2022-12-12.
- ↑ by, Written (2021-01-06). "Cardiganshire Record Office - Family Tree Resources" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-12-13.
- ↑ "Former lifeboat station to house archives | cambrian-news.co.uk". Cambrian News. 2019-05-30. Cyrchwyd 2022-12-12.
- ↑ "Record Offices in Wales". www.familysearch.org. Cyrchwyd 2022-12-12.
- ↑ "Crew List Index Project". www.crewlist.org.uk. Cyrchwyd 2022-12-12.
- ↑ Archives, Archifdy Ceredigion (2014-10-07). "HISTORY OF EARLY MOTORING IN CARDIGANSHIRE". Ceredigion Archives (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-12-12.
- ↑ "Wales and Waterloo: Napoleonic tales among archive cache". BBC News (yn Saesneg). 2015-01-12. Cyrchwyd 2022-12-12.
- ↑ "Catalogue - Ceredigion Archives - Archifdy Ceredigion - Ceredigion Archives". archifdy-ceredigion.org.uk. Cyrchwyd 2022-12-12.